Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Rheithgor newydd yn achos Aamir Siddiqi

Rhagfyr 23, 2011 14:27


Aamir Siddiqi
 
Mae’r rheithgor wedi cael eu rhyddhau yn achos y ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio bachgen ysgol o Gaerdydd.

Nid yw’r Wasg yn cael adrodd y rhesymau dros ddod â’r achos i ben dros dro.

 Penderfynodd y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd heddiw y byddai’r achos yn cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd, pan fyddai rheithgor newydd yn cael eu penodi.

 Cafodd Aamir Siddiqi 17 oed, er drywanu i farwolaeth yn nrws ei gartref yn ardal Y Rhath, Caerdydd ar 11 Ebrill 2010.

 Mae’r ddau ddiffynnydd, Ben Hope a Jason Richards, wedi gwadu’r cyhuddiad o’i lofruddio ef, ac o geisio llofruddio ei rieni ar ôl iddyn nhw ruthro i’r drws i geisio’i achub.

 Penderfynodd Mr Ustus Roderick Evans ryddhau’r rheithgor am resymau cyfreithiol.

 Mae disgwyl i’r achos newydd gael ei gynnal ar 10 Chwefror 2012.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.