
Aled Roberts
Mae Aelod Cynulliad eisiau gweld cwmni sy’n bwriadu ehangu eu ffatri yn Wrecsam a chreu 50 o swyddi newydd, yn derbyn nawdd cyhoeddus i gryfhau eu busnes.
Bydd Cobra UK Automotive Products yn agor ffatri newydd yn Wrecsam ar ôl arwyddo cytundeb gwerth £12miliwn gyda Vauxhall Motors.
Mae Aled Roberts, sy’n gyn-Arweinydd Cyngor Wrecsam ac yn Aelod Cynulliad Lib Dem dros Ogledd Cymru, eisiau gweld cwmni Cobra yn cael arian o’r pwrs cyhoeddus i fedru tyfu eto a chreu mwy o waith.
“Dyma newyddion gwych, yn enwedig yr amser hyn o’r flwyddyn,” meddai Aled Roberts wrth ymateb i’r cyhoeddiad am y swyddi newydd heddiw.
“Rydw i’n falch yn arbennig gan bod Cobra wedi cynnig swyddi i nifer o staff a gollodd eu swyddi blaenorol pan aeth BoS o Wrecsam.
“Ar adegau anodd fel hyn, dyma’r busnesau sy’n medru ffurfio asgwrn cefn economi Gogledd Cymru.
“Fy ngobaith i yw y bydd y cwmni’n derbyn arian ychwanegol o Gronfa Twf Economaidd Cymru er mwyn iddyn nhw fedru buddsoddi eto yn ein rhanbarth.”