
Mae Jonathan Edwards yn bryderus am effaith y cau
Mae pryderon y bydd diflaniad Llys Ynadon Rhydaman yn ergyd drom i’r Gymraeg a’r gymuned ar ôl iddo gau ei ddrysau am y tro olaf ddoe.
Daeth diwedd y llys yn rhan o Raglen Rhesymoli Ystad y Llys gan Weinidogaeth Gyfiawnder Llywodraeth San Steffan.
Roedd y Llys Ynadon wedi bod yn y dref ers 99 o flynyddoedd, ac mae aelodau mainc Dinefwr wedi rhybuddio y bydd cau’r llys er mwyn uno â Chaerfyrddin a Llanelli yn glec i’r gymuned leol a’r Gymraeg.
“Mae gan Dinefwr un o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Rydyn ni’n teimlo y bydd yr uno yn rhannu’r cyd-dynnu a’r dealltwriaeth sydd wedi datblygu ymhlith ein hynadon pan yn delio â materion ieithyddol,” meddai Ynadon Mainc Dinefwr mewn datganiad.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan eu bwriad i gau llysoedd ynadon ar draws Cymru yn 2010., ac maen nhw’n ffyddiog na fydd y gwasanaeth Cymraeg yn llysoedd y Gorllewin yn dirywio.
Wrth edrych ar effaith cau llysoedd Ynadon Cymru ar yr iaith Gymraeg, dywedodd y Llywodraeth y byddai canran y siaradwyr Cymraeg ymhlith yr Ynadon ar y fainc unedig newydd yn dal yn uwch na chanran y boblogaeth yn yr ardal sy’n siarad Cymraeg, sef 50.3%.
“Mae dros 70% o fainc presennol Dinefwr yn siarad Cymraeg, ond gydag uno’r fainc, fe fyddai 58% o fainc newydd Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg – sydd yn uwch na chanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal,” meddai’r Llywodraeth.
Arbed arian yn bwysicach na chyfiawnder?
Ond mae’r penderfyniad i gau Llys Ynadon Rhydaman wedi creu pryderon y bydd cymuned gyfan yn colli allan.
Mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cau llysoedd ynadon Cymru ers cyhoeddi’r cynlluniau.
“Mae’r holl raglen yn canolbwyntio ar gynilo arian, yn hytrach na gwella cyfiawnder yn y gymdeithas leol,” meddai llefarydd ar ran yr AS wrth Golwg 360 heddiw.
Mae Jonathan Edwards yn dadlau fod y meini prawf dros gau llysoedd ynadon Cymru hefyd wedi bod yn rhy gul, ac wedi eu llunio o gwmpas amcanion Llundeinig.
“Dydi trefi a phentrefi Cymru ddim fel dinasoedd Lloegr – ac ni ddylid fod wedi defnyddio’r un meini prawf,” meddai.
Efrogwr , Rhagfyr 24, 2011 8:20 pm
§| Nodi camddefnydd