Rhybudd am arian ffug
Rhagfyr 25, 2011 16:19

Mae nifer o bapurau £20 ffug wedi cael eu darganfod yng ngogledd Cymru.
O ganlyniad, ar ddechrau tymor y sêls, mae’r heddlu’n rhybuddio pobol yr ardal i fod ar eu gwyliadwriaeth.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe gafodd papurau ffug eu gweld mewn pedair tref yn yr ardal – Treffynnon, Y Rhyl, Wrecsam a Llandudno.
Er bod y papurau’n edrych yn iawn, fe fydden nhw’n cael eu nodi gan y math o beiriannau uwch-fioled sydd mewn llawer o siopau.
Fe ddylai neb sy’n dod ar draws papurau ffug, gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Sylwadau
Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.
Lewys Arôn , Rhagfyr 26, 2011 7:57 pm
§| Nodi camddefnydd