Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Diffyg atebion am arian y BBC yn cythruddo AS

Rhagfyr 29, 2011 14:23


Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru’n cwyno nad yw’r Llywodraeth yn gallu ateb cwestiynau’n ymwneud â chyllid y BBC  a ofynnwyd ganddo yn y Senedd.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig, roedd Hywel Williams wedi holi sawl trwydded deledu sydd wedi cael ei chodi yng ngwahanol wledydd y Deyrnas Unedig, a faint o incwm a grewyd ganddynt.

Ond yr ymateb a gafodd oedd na chafodd y ffigyrau eu cofnodi na’i cyfrifo gan yr Adran dros Ddiwylliant, Y Gemau Olympaidd, Y Cyfryngau a Chwaraeon na’r BBC eu hunain.

 “Gydag S4C yn cael ei chynnwys yn y ffi drwydded, a gyda BBC Cymru yn wynebu toriadau, roeddwn yn awyddus i ganfod faint o’r ffi drwydded sy’n cael ei godi a gwario yng Nghymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gostau a buddiannau ein diwydiant cyfryngau,” meddai Hywel Williams.

 “Ond mae’n debyg nad ydi’r BBC wedi llwyddo i ddyfeisio system sy’n medru dweud wrthynt sawl trwydded sydd ym mhob gwlad na faint o arian a godir yno.

 “Mewn degawd yn y senedd dyma un o’r atebion mwyaf tila i mi eu derbyn i gwestiwn – ac yn siwr o fod yn embaras i fudiad sy’n derbyn £5bn gan y cyhoedd pob blwyddyn.

 “Mae ‘na batrwm rhyfedd yn San Steffan sy’n dangos nad oes ganddynt y gallu i ddarparu ateb pryd bynnag fo Cymru yn cael bargen wael.

 “Arian cyhoeddus yw hwn, wedi ei godi dan siarter y BBC, a dylsem ddisgwyl tryloywder llwyr ar y mater.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Rhagfyr 29, 2011 4:55 pm

Pam ddim defnyddio cod post pawb sydd wedi talu y trwydded i gael ryw fath o syniad faint mae pob rhan o’r DU yn gyfranu i’r drwydded.

Dwi’n deall nid yw hyn yn ffordd hollol cadarn o wneud pethau (yn enwedig ar hyd y ffin) ond mae’n rhoi amcangyfrif eithaf da dwi’n siwr.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.