Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Y ffraeo’n chwerwi rhwng llywodraethau Llundain a Chaerdydd

Rhagfyr 29, 2011 18:17


Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymosod yn hallt ar y Prif Weinidog Carwyn Jones am ddadlau dros berthynas newydd rhwng Cymru ac Ewrop.

Roedd yn ymateb i sylwadau diweddar gan Carwyn Jones yn beirniadu Prif Weinidog Prydain, David Cameron, am beidio ag ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn defnyddio feto i wrthod cytundeb yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Carwyn Jones, roedd hyn yn dangos yr angen ar i Gymru ddatblygu rhagor o gysylltiadau uniongyrchol â’r Undeb Ewropeaidd.

“Yr hyn y mae Carwyn Jones yn dadlau drosto mewn gwirionedd yw annibyniaeth,” meddai Cheryl Gillan.

“Dyw Cymru ddim yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd; y Deyrnas Unedig sy’n aelod. Does gan Lywodraeth Cymru ddim sedd yng Nghyngor y Gweinidogion; gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y mae hynny.

“Os nad yw’r Prif Weinidog yn dadlau y dylai Cymru gael y ddau beth, dylai ei weinyddiaeth wneud mwy o ymdrech i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i gweinidogion, yn lle bod yn gynyddol wrthwynebus tuag at y ddau.”

Dywedodd fod yn rhaid gofyn pam fod Carwyn Jones “mor awyddus i ddilyn ei bolisi tramor ei hun” pan oedd wedi “methu” gyda’i bolisïau yng Nghymru.

“Dim ond dau Fesur sydd wedi cael eu cyhoeddi ers i’r Cynulliad ennill pwerau newydd yn y refferendwm ym mis Mawrth,” meddai Cheryl Gillan, Aelod Seneddol Chesham ac Amersham.

“Ac mae rhestr barhaol druenus o ystadegau ar bopeth o ganlyniadau iechyd i berfformiad arholiadau yn y meysydd lle mae gan y weinyddiaeth Lafur yng Nghymru gyfrifoldeb llwyr.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’w sylwadau, meddai ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru:

“Wnawn ni ddim cymryd unrhyw wersi gan y Toriaid ar wasanaethau cyhoeddus. Dylai’r Ysgrifennydd Gwladol edrych yn fanylach ar y difrod y mae’r polisiau Toriaidd o breifateiddio’n eu hachosi ar iechyd, addysg a llywodraeth leol ar draws y ffin cyn beirniadu rhai Llywodraeth Cymru.

“Mae’r ffordd y mae’r Toriaid yn ein hynysu ar yr ymylon, pan ddylen ni fod yng nghanol yr holl ddadl Ewropeaidd, yn fygythiad difrifol i fuddiannau pobl Cymru yn y dyfodol.”

Ac meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru:

“Dyw Llafur Cymru ddim yn ymddiheuro am fod eisiau Cymru cyn gryfed ag sy’n bosibl yn yr Undeb – yn wahanol i Cheryl Gillan, sydd fel petai hi’n dadlau dros Gymru sy’n gwybod ei lle ac nad yw’n gwthio’n rhy galed nac yn gwneud gormod o sŵn.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John , Rhagfyr 29, 2011 6:22 pm

Ddim yn pleidleisio Llafur, ond o leia bod Llafur wedi codi dau fys ati.

§

Mali , Rhagfyr 29, 2011 6:32 pm

Er mae siwr bod boss Carwyn, sef Peter Hain, yn cytuno a Gillian.

§

Adam Jones , Rhagfyr 29, 2011 7:29 pm

Dyna eironi’r peth, Llafur wedi hollti, hanner ohonynt yn genedlaetholwyr sydd wedi cwato tu hol i faen enfawr a’r gweddill yn Brydeinwyr rhonc sydd hefyd yn cwato o dan faen fel nad ydynt yn cytuno gyda’r toriaid yn eu gwleidyddiaeth lwythol ?/ (tribal politics, dyw’r term Cymraeg ddim yn cyfleu’r un neges)

Ta waeth, ma hwn yn wych i ni genedlaetholwyr oll sydd am weld rhyw ddyfodol o ryw fath i Gymru, maent yn dadlau’r achos dros annibyniaeth i ni, gadewch iddynt wneud, a hynny’n gyhoeddus hefyd!

A oedd gwirionedd yn beth oedd Adam Price yn gweud? Sgwni os y Blaid Lafur yng Nghymru fydd yn arwain y ffordd at Annibyniaeth ;) ?

§

John Griffith , Rhagfyr 29, 2011 7:52 pm

Pwy yng Nghymru bleidleisiodd dros Cheryl Gillan?

§

John , Rhagfyr 29, 2011 8:13 pm

John Griffiths- dych chi’n llygad eich lle

§

Hirben , Rhagfyr 29, 2011 8:37 pm

Dylai’r Blaid Geidwadol roi cyfle i rywun fel Glyn Davies fod yn Ysgrifennydd Cymru. Penodiad gwael oedd penodi Cheryl Gillian.
A yw Carwyn Jones am ymuno gyda Phlaid Cymru nawr? Dyna beth ddylai ei wneud os yw am i Gymry fod yn annibynnol oddi wrth Lundain!

§

CGT , Rhagfyr 29, 2011 10:15 pm

Mae’n dangos nad yw Cheryl Gillan yn gwybod dim oll am wleidyddiaeth Cymru , os yw hi’n credu fod unrhyw fath o genedlaetholdeb yn perthyn i Carwyn Jones .

§

james Croach , Rhagfyr 29, 2011 10:29 pm

Adam Jones, plaid cymru yw’r plaid gore, saimod pa planed tin fyw ar ond ar planed sglodion

§

Hirben , Rhagfyr 30, 2011 7:54 pm

Nid yw Cheryl Gillan yn addas o gwbl ar gyfer swydd Ysgrifennydd Cymru. Glyn Davies ddylai gael y swydd hon.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.