Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Plaid Cymru’n pwyso am wahardd alcohol rhad

Rhagfyr 30, 2011 09:06, Diweddarwyd am 09:12


Mae Plaid Cymru yn herio Llywodraeth Lafur Cymru i gadw at yr addewid yn ei maniffesto i wahardd alcohol rhad.

Yn ôl y Blaid mae angen i Lywodraeth Carwyn Jones fynd ati ar unwaith i gyflwyno isafswm ar gyfer pris alcohol, er mwyn lleddfu problemau yfed dan oed a gor-yfed yn gyffredinol.

Mi fyddai gwahardd diodydd rhad yn golygu llai o feddwi, llai yn gorfod mynd i’r ysbyty, llai yn marw oherwydd alcohol, llai o drosedd a llai o golli gwaith – yn ôl Plaid Cymru.

Wrth drafod bwriad Senedd yr Alban i wahardd alcohol rhad, mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn genfogol o’r syniad ond bod angen cynnal y gwaharddiad trwy Brydain gyfan.

 “O ran prisio alcohol, y brif broblem -a bydd hyn yn broblem yn yr Alban -yw os bydd gennych brisiau gwahanol o bobtu’r ffin, bydd pobl yn croesi’r ffin i brynu alcohol ar yr ochr arall,” meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd hyn yn broblem yn yr Alban os ânt ymlaen â’u polisi ar brisio alcohol. Byddai’n fwy effeithiol o lawer pe mabwysiedid yr un polisi yn Lloegr, yr Alban a Chymru, gan y byddai hyn yn sicrhau nad oes gwahaniaeth ym mhris alcohol rhwng y tair cenedl.” 

Yn ôl Carwyn Jones nid oes ganddo’r grym i newid pethau am bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr hawl i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar drwyddedu alcohol.

Ond mae llefarydd Iechyd y Blaid yn cyhuddo’r Prif Weinidog  o laesu dwylo.

 “Dyma fater arall eto fyth lle mae Llafur yng Nghymru yn amlwg wedi penderfynu eistedd yn ôl a gwneud dim,” meddai Elin Jones, sy’n gobeithio llenwi esgidiau Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd y Blaid.

“Cyn hyn, roeddent wedi cytuno y buasai polisi Plaid Cymru ar gyflwyno isafswm pris i alcohol yn llesol.  Ac eto, mae’n ymddangos fel petai’r Prif Weinidog yn troi ei gefn ar hynny, gan ddweud na ddylid cyflwyno’r polisi yng Nghymru oni chaiff ei gyflwyno hefyd yn Lloegr.

“Mae dadl y Prif Weinidog yn chwerthinllyd ac yn mynd yn hollol groes i egwyddorion sylfaenol datganoli. Sylfaen datganoli yw creu polisïau i Gymru, yng Nghymru, ac er lles pobl Cymru, waeth beth yw polisïau cenhedloedd eraill y DG.

“Mae’r tro pedol hwn yn adleisio’r un hen agwedd ‘gwneud-dim’ ddaeth eisoes yn nod Llafur yng Nghymru.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


John Griffith , Rhagfyr 30, 2011 10:23 am

“Yn ôl Carwyn Jones nid oes ganddo’r grym i newid pethau am bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr hawl i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar drwyddedu alcohol.”

Faint o hunan lywodraeth sydd gennym mewn gwirionedd?

“Bydd hyn yn broblem yn yr Alban os ânt ymlaen â’u polisi ar brisio alcohol. Byddai’n fwy effeithiol o lawer pe mabwysiedid yr un polisi yn Lloegr, yr Alban a Chymru, gan y byddai hyn yn sicrhau nad oes gwahaniaeth ym mhris alcohol rhwng y tair cenedl.”

A yw’r egwyddor hwn yn rhwystro llywodraethau Ewrop rhag deddfu?

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Rhagfyr 30, 2011 7:43 pm

Os yw’r gwleidyddion am godi pris alcohol i’r tath raddau fel ei fod yn rhwystr i’w brynu, byddai hyn yn golygu codi’r pris yn aruthrol. Y tebyg yw y byddent yn codi’r pris ryw ychydig, ond nid digon i atal pobl rhag ei brynu a meddwi arno. Edrych i mi fel bod Plaid Cymru yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol yma. Bydd ond yn golygu fod pobl yn gwario canran uwch o’u harian ar alcohol.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Rhagfyr 30, 2011 7:50 pm

Pan roeddwn i’n cael hi’n anodd i brynnu cwrw oherwydd y pris……roeddwn i’n bragu cwrw fy hun. Ni fydd gwleidyddion byth yn rhwystro pobl rhag meddwi. Dim byth! Ond efallai gallant helpu i roi gobaith i bobl fydd yn rhoi hyder a phwrpas ac yn y pen draw, chyfrifoldebau iddynt.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Rhagfyr 30, 2011 9:53 pm

Beth am beidio codi pris alcohol

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Rhagfyr 31, 2011 8:28 am

Gyda phob parch, y mae alcohol yn creu problemau mawr yn ein cymdeithas: tlodi, trais, afiechyd, ymddygiad gwrth gymdeithasol, caethiwed ag yn y blaen. Mi fuasai codi pris alcohol yn ddechrau i’r ymateb i’r cythraul hwn.

§| Nodi camddefnydd

chwareus , Rhagfyr 31, 2011 11:12 am

Rhagrith a nonsens. Ble mae’r ymchwil? Ydi Plaid hefyd o blaid codi pris cocen a heroin ‘fyd?yn ogystal a chefnogi ‘rhwystro”r werin datws rhag mwynhau ambell beint, a lladd mwy o dafarndai lleol y fro Gymraeg yn y broses?
A fydd eu haelodau, a’r jyncet flynyddol yn sych i roi arweiniad i bawb?
Sgersli belif.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Rhagfyr 31, 2011 12:52 pm

“Mae Plaid Cymru yn herio Llywodraeth Lafur Cymru i gadw at yr addewid yn ei maniffesto i wahardd alcohol rhad.”

“Yn ôl Carwyn Jones nid oes ganddo’r grym i newid pethau am bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr hawl i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar drwyddedu alcohol.”

Os na chaiff ein Llywodraeth ddeddfu ar drwyddedu alcohol, paham yr addewid yn y maniffesto i wahardd alcohol rhad?

Ni fuasai gwahardd alcohol rhad yn debygol o effeithio’r werin datws sy’n mwynhau ambell beint. Y gobaith yw y buasai yn effeithio y rhai sy’n yfed tra’n feddw gaib, ac yna yn creu trafferth yn oriau bach y bore ar ein strydoedd ac yn ein hysbytai – tra’n anwybyddu’r sgil effeithiau.

§| Nodi camddefnydd

Jones , Rhagfyr 31, 2011 2:00 pm

Mae’r ffaith bod botel o gwrw mewn sawl lle yn rhatach no botel o ddwr yn joc llwyr. Dwi’n meddwl bysa codi y pris yn peth da iawn i bobl ifanc yn enwedig myfyrwyr.

Pan o nin astudio o nin deud “reit £x sydd gen i wario heno a dim mwy” – petai y pris yn mynd fyny mae’n sicr y byswn i wedi yfed llai.

Gall hyn hefyd roi hwb fechan i’r economi. Yn amlwg fydd codi y pris ddim yn effeithio cwmniau lleol syn gneud cwrw a seidr yng Ngymru (oherwydd mae nhwn eithaf drud). Ond wrth godi prisiau seidr a cwrw rhad syn dod o dramor- efallai fydd mwy yn mentro a trio y nwyddau cymreig.

Hefyd, fydd e yn hwb i tafarn dai. Ar y funud mae arfarchnadoedd yn rhoi sybsydi ar y cwrw i ddenu pobl i fewn. Tydy tafarn dai methu gwneud hyn (llawer). Gan roi pris isafswm dwin rhagweld fydd prisiau cwrw mewn archafarchnad yn cynyddu yn SYLWEDDOL. Eto fydd hyn yn gwneud i bobl feddwl- ydion rhatach yfad adra? os ddim, pam ddim mynd i pub?

Felly o ran iechyd pobl sydd hefo problem alcohol dwi’m yn meddwl fydd mesur or fath yn gweithio. Ond i bobl ifanc, i tafarndai ac i cynhyrchwyr lleol- fydd o mond yn peth da!

(a gobeithio mewn 10mlynedd fydd genod ifanc yn mynd fynyr stryd hefo “gwynt y mor” yn lle “white lightnin’”!!!)

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.