Mewn neges i aelodau ar ddechrau blwyddyn hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae ei chadeirydd, Bethan Williams, wedi rhybuddio y bydd canlyniadau’r Cyfrifiad – sy’n cael eu rhyddhau yn 2012 – yn tanlinellu’r argyfwng sy’n wynebu’n cymunedau Cymraeg.

Ond yn ei neges diwedd blwyddyn mae hi hefyd yn honni bod yr Iaith yn ddiogel oherwydd ymgyrchu’r Gymdeithas ers ei sefydlu yn 1962.

“Oherwydd yr holl waith ac ymgyrchu dros y 50 mlynedd diwethaf, gallwn ni fod yn sicr y bydd y Gymraeg yn goroesi,” meddai Bethan Williams.

“Y cwestiwn yn awr yw pa fath o ddyfodol a fydd i’r iaith ? Ai iaith diwylliant lleiafrifol yn ei gwlad ei hun fydd y Gymraeg, neu iaith pob dydd cymunedau byw ac iaith y gellir ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd: Ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl?
 
“Bydd canlyniadau’r Cyfrifiad a ryddheir yn ystod 2012 yn tanlinellu maint yr argyfwng yn ein cymunedau Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn rhyddhau ein cynlluniau gweithredol i geisio parhad i’r cymunedau hyn ac i helpu cymunedau eraill hefyd i gyflawni eu potensial i fod yn gymunedau Cymraeg.”