Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pryder am gau Ysbyty Bryn Beryl ar Benrhyn Llyn

Rhagfyr 31, 2011 08:47


Ysbyty Bryn Beryl
Mae cau ward yn Ysbyty Bryn Beryl ar Benrhyn Llyn dros dro yn angenrheidiol er mwyn gwarchod y gwasanaeth i gleifion yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwalader.

Redd Dr Olwen Williams yn annerch dros 500 o bobl ddaeth ynghyd yn neuadd Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli am eu bod yn poeni am benderfyniad y Bwrdd i gau ward Llyn am dri mis a chyfyngu’r gwasanaeth yn uned mân anafiadau’r ysbyty.

“Mae hyn yn benderfyniad anodd iawn,“ meddai Dr Williams “ond rydym eisiau pwysleisio y bydd y ward yn ail-agor unwaith y byddwn wedi datrys materion yn ymwneud â staffio a recriwtio.”

Dywedodd Michael Strain o Gyngor Cymuned Botwnnog beth bynnag nad oedd y protestwyr yn debygol o goelio hyn.

“Rydym wedi clywed hyn o’r blaen pan gaewyd ward Hafan sy’n parhau ar gau ar ôl blwyddyn a hanner,”meddai. “Mae yna agenda gudd ynglyn â’r pendefyniad yma sydd heb fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus,” ychwanegodd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Read sy’n aelod o’r Cyngor Iechyd Cymunedol ei fod wedi cael ar ddeall gan Brif Weithredwr y Bwrdd na fuasai unrhyw beth yn cael ei gau ym Mryn Beryl ond fod yr addewid yma wedi ei dorri o leiaf dwywaith.

Bydd y gwelyau o Bryn Beryl yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Eryri, Caernarfon ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’r uned man ddamweiniau ar agor dim ond o 9 -5 o ddydd Llun i ddydd Gwener o dan y drefn newydd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.