
Mae’r gwasanaethau achub a hofrennydd heddlu Gogledd Cymru wedi ail-gychwyn chwilio am berson ar ôl i gwch wâg gael ei darganfod filltir oddi ar yr arfordir i’r gogledd o Gonwy yn hwyr nos Sadwrn.
Gwylwyr y Glannau Caergybi ddaeth o hyd i’r cwch tua 10.00 o’r gloch y nos a bu timau o Gonwy, Llandudno, Llangollen a’r hofrennydd yn chwilio tan 4.00 o’r gloch y bore yma.
Mae’r cwch wedi ei chofrestru yn Deganwy.