
Lladdwyd dwy wraig ifanc o Wynedd yn y fan a’r lle wedi damwain ym mhentref Llanrug ger Caernarfon yn gynnar y bore yma.
Roedd y ddwy mewn car Vauxhall Corsa oedd yn teithio o Lanberis i Gaernarfon tua 6 o’r gloch y bore pan aeth yn erbyn wal ger tafarn Glyn Twrog yn y pentref.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu am yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i ffonio 0300 3300101.