
Ieuan Wyn Jones
Mae’r cyfnod enwebu ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru yn dechrau’n swyddogol heddiw.
Mae pedwar eisoes wedi datgan eu bwriad i sefyll am arweinyddiaeth y blaid hyd yn hyn, sef Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood ond heddiw fydd dechrau’r cyfnod swyddogol o enwebu arweinydd newydd i olynu Ieuan Wyn Jones.
Bydd y cyfnod enwebu yn para nes 26 Ionawr, gyda chyfle i bob aelod gael pleidleisio am arweinydd newydd y blaid yn ystod mis Chwefror.
Mae Plaid Cymru yn dweud bod yr ymgyrch i ddewis arweinydd newydd eisoes wedi denu bron i fil o aelodau newydd i’r blaid, ac yn gobeithio bydd y ffigwr hwnnw’n cynyddu wrth i’r ymgyrchu am arweinyddiaeth y blaid fynd rhagddi.
Mae Prif Weithredwr y blaid, Rhuanedd Richards, eisoes wedi cyfeirio at yr ymgyrch fel un i “adnewyddu ein plaid” yn ystod y misoedd nesaf.
“Bydd gan unrhyw un sy’n ymuno cyn 26 Ionawr 2012 bleidlais i benderfynu pwy sy’n arwain y blaid,” meddai Rhuanedd Richards, “a dyma ein neges i bobl Cymru dros y misoedd nesaf – os ydych yn caru Cymru, os ydych yn pryderu am ddyfodol ein cenedl, yna ymunwch â ni a miloedd o aelodau eraill y Blaid sydd yn barod i chwarae eu rhan er mwyn sicrhau y bydd Cymru yn symud ymlaen ac yn cyflawni ei photensial.”
Bydd y cyfnod enwebu arweinwyr posib yn dod i ben ar 26 Ionawr, cyn dechrau ar y cyfarfodydd hystings cyhoeddus led led Cymru ym mis Chwefror. Mae disgwyl i arweinydd newydd y blaid gael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ar 15 Mawrth, wythnos cyn Cynhadledd Wanwyn y blaid.