
Paul Flynn
Mae’r gwleidydd Paul Flynn yn galw am “gorff annibynnol” i oruchwylio cyffuriau a dyfeisiadau meddygol, yn sgil helynt yr ychwanegiadau at fronnau.
Mae’n dilyn pryder bod miloedd o ferched ym Mhrydain wedi cael ychwanegiadau at eu bronnau sy’n ddiffygiol, sy’n cael eu cynhyrchu gan gwmni o Ffrainc, Poly Implants Protheses (PIP).
Mae’r gwleidydd yn dweud bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi “cam amcangyfrif y difrod sy’n cael ei achosi gan ychwanegiadau at fronnau.”
Mae’r MHRA yn sefydliad Llywodraethol ac mae’n cael ei gyllido gan y diwydiant fferyllol.
Mae Paul Flynn yn galw am gorff cwbl annibynnol i oruchwylio cyffuriau a dyfeisiadau meddygol.
Yn 2004, roedd yr MHRA wedi dweud wrth y gwleidydd fod 47 o farwolaethau mewn blwyddyn o ganlyniad i baracetemol. Fodd bynnag, roedd crwner y llys wedi nodi bod rhwng 500 a 600.
Fe ddywedodd wrth Golwg360 ei bod yn bryd i Brydain ddilyn esiampl yr Eidal sydd eisoes â chorff annibynnol o’r enw’r Agenzia Italiana del Farmaco.
“Yn yr Eidal, mae’r corff yn hollol annibynnol. Ar hyn o bryd, y dyn oedd yn rhedeg yr MHRA blynyddoedd yn ôl oedd y dyn sydd wedi bod yn gweithio yn Glaxo Smith Kline am flynyddoedd,” meddai.
“Mae gormod o benderfyniadau yn cael eu dylanwadu gan ddiddordebau ariannol y cwmnïau fferyllol.”