Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cyfradd marwolaethau Bryncethin yn uwch na Botswana

Ionawr 5, 2012 09:42, Diweddarwyd am 09:45



Mae’r gyfradd marwolaethau mewn un ardal yn ne Cymru yn waeth na’r cyfartaledd yn Botswana, a hyd yn oed Rwanda, yn ôl ystadegau newydd Llywodraeth San Steffan.

Mae’r ffigyrau yn dangos mai ym Mryncethin, ger Pen-y-bont ar Ogwr, y mae’r cyfradd marwolaeth uchaf trwy Brydain gyfan, gyda 1,499 o farwolaethau i bob 100,000 o’r boblogaeth  bob blwyddyn.

Mae hyn o’i gymharu â 1,427 o farwolaethau i bob 100,000 yn Rwanda, a 1,452 o farwolaethau i bob 100,000 yn Botswana, yn ôl ffigyrau Sefydliad Iechyd y Byd.

Ond pentref bach o 1,300 o drigolion yw Bryncethin, sy’n golygu bod y cyfradd cyfartaledd yn golygu, mewn gwirionedd, mai rhyw 19 o farwolaethau fu i gyd yn 2009.

Mae arbenigwyr hefyd wedi rhybuddio bod nifer o ffactorau eraill i’w cymryd i ystyriaeth wrth edrych ar y ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan y Llywodraeth – gan gynnwys presenoldeb cartrefi gofal yr henoed neu hosbis mewn rhai ardaloedd, fyddai’n dueddol o gynyddu’r cyfraddau.

Mae’r ffigyrau, sy’n edrych ar gyfraddau marwolaeth yn ystod 2009, yn dangos bod tair ardal o Gymru ymhlith y pump uchaf ar gyfer cyfradd marwolaethau ar draws gwledydd Prydain yn 2009, gyda Bryncethin ar y brig, a dwy ardal o Wrecsam – Gorllewin Gwersyllt ac Offa – yn bedwerydd ac yn bumed ar y rhestr Brydeinig.

Cyfradd Marwolaethau Cymru 2009 – y 10 uchaf:

Ardal Awdurdod Lleol Cyfradd Marwolaethau (i bob 100,000)
1 Bryncethin Pen-y-bont ar Ogwr 1,499
2 Gorllewin Gwersyllt Wrecsam 1,419
3 Offa Wrecsam 1,297
4 Grosvenor Wrecsam 1,284
5 Kingsland Ynys Môn 1,213
6 Pillgwenlli Casnewydd 1,190
7 Tudur Ynys Môn 1,110
8 Y Felinheli Gwynedd 1,105
9 Ynysddu Caerffili 1,094
10 Llangrallo Isaf Pen-y-bont ar Ogwr 1,091

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.