
Mae’n Nos Ystwyll, deuddegfed noson y Nadolig ac mae ymgyrch ar waith sy’n annog pobl i “arbed, ailddefnyddio, ailgylchu ac adennill” gwastraff y Nadolig.
Mae gan yr ymgyrch ‘Craff am Wastraff’ gyngor i bobl am waredu gwastraff mewn ffordd “ddiffwdan a diwastraff.”
‘Haws nag erioed’
“Mae meddwl am fynd ati i glirio llanast y Dolig yn mynd yn fwy o fwgan bob blwyddyn, ond mae’n haws nag erioed cael gwared ar y pethau hynny nad ydych chi eu hangen mwyach drwy eu gwerthu, eu rhoi i eraill neu eu hailgylchu,” meddai Georgina Taubman o’r Cynllun ‘Craff am Wastraff’.
“Os oes gennych chi goeden Nadolig go iawn, bydd eich cyngor lleol yn ei chasglu, neu gallwch fynd â hi i’ch canolfan ailgylchu leol neu ei thorri’n ddarnau a’i chompostio gartref.”
Yn hytrach na thaflu hen gardiau Nadolig, mae’r swyddog yn annog pobl i’w hailddefnyddio fel tagiau rhoddion y tro nesaf a hynny i “leihau gwastraff a chadw’r teulu’n brysur.”
“Fel arall, mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd fannau ailgylchu cardiau, sy’n golygu y gallwch ailgylchu wrth wneud eich siopa wythnosol,” meddai.
Hefyd, yn hytrach na gadael i roddion Nadolig diangen “bentyrru mewn cwpwrdd,” mae’r ymgyrch yn annog pobl i’w “gwerthu neu eu cyfnewid ar-lein.”
Gwefannau i gyfnewid anrhegion
Ymhlith gwefannau defnyddiol mae Freecycle, Freegle, Ebay, Preloved a Gumtree.
“Neu beth am gynnal parti cyfnewid rhoddion Dolig gyda’ch ffrindiau, neu fynd ar-lein i gyfnewid eich dillad diangen ar Swishing.co.uk. Os nad yw hyn yn apelio, gallwch eu rhoi i’ch siop elusen neu’ch banc dillad lleol – fe fyddan nhw’n ddiolchgar iawn amdanyn nhw,” meddai Georgina Taubman.
“Os ydych chi wedi derbyn rhoddion mwy, a’ch bod am waredu hen ddodrefn fel eich teledu, eitemau electronig fel consolau gemau ac offer cegin, cysylltwch â’ch cyngor er mwyn cael gwybodaeth am wasanaethau casglu gwastraff electronig a gwastraff swmpus, neu ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol.”
Mae’r cynllun yn gweithredu dan nawdd Llywodraeth Cymru ers 2002, gan hyrwyddo’r camau y gall pobl eu cymryd i helpu i reoli’n hadnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy.
Adam Jones , Ionawr 6, 2012 2:15 am
§| Nodi camddefnydd