Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Irac: Dychwelyd corff dyn arall

Ionawr 6, 2012 06:00


Alec MacLachlan
Fe fydd corff dyn gafodd ei gipio yn Irac pum mlynedd yn ôl yn cael ei ddychwelyd i Brydain, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Alan McMenemy, o Glasgow, yn ogystal â thri gwarchodwr arall ac arbenigwr ar dechnoleg gyfrifiadurol yr oedden nhw’n ei warchod, eu cipio gan ddynion arfog yn 2007.

Dychwelwyd cyrff y gwarchodwyr eraill, gan gynnwys Alec MacLachlan, 30, o Lanelli, yn 2009.

Rhyddhawyd yr arbenigwr cyfrifiadurol yr oedden nhw’n ei warchod, Peter Moore, 36, yn fyw ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n gweithio yn agos ag awdurdodau Irac er mwyn cau pen y mwdwl ar yr “achos erchyll” yma.

Roedd Alan McMenemy yn 34 oed pan gafodd ei gipio. Cafodd Jason Swindlehurst, 38, o Skelmersdale, Swydd Gaerhirfryn, a Jason Creswell, 39, o Glasgow hefyd eu cipio a’u lladd.

Cipiwyd y pump gan wrthryfelwyr oedd wedi eu gwisgo fel heddlu yn adran gyllidol Irac ym mis Mai 2007.

“Rydyn ni’n ymwybodol o adroddiadau fod Asaib Ahel al-Haq wedi dweud eu bod nhw’n fodlon dychwelyd corff Alan McMenemy, sydd wedi bod ar goll yn Irac ers 2007,” meddai’r Swyddfa Dramor.

“Mae ansicrwydd ynglŷn â ffawd Alun wedi bod yn anodd iawn i’r teulu.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.