Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Addo ‘newid radical’ i Gymdeithas yr Iaith

Ionawr 6, 2012 12:51



Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y gallai’r mudiad newid yn llwyr yn y dyfodol agos.

Daw ei sylwadau yn sgil cyfres o erthyglau gan ymgyrchwyr amlwg yn trafod sut y dylai’r mudiad fynd i’r afael â dirywiad yr iaith yn y dyfodol.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd ddoe galwodd yr academydd Simon Brooks am fudiad newydd er mwyn mynd i’r afael â heriau’r Gymru fodern.

Yn yr erthygl, a gomisiynwyd er mwyn nodi 50fed pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith, mae’n dadlau fod “angen grŵp cyfansoddiadol a fydd yn rhoi’r iaith wrth galon y wladwriaeth Gymreig”.

“Y gwirionedd yw nad oes gan y mudiad iaith Gymraeg adain gyfansoddiadol effeithiol ac ymroddedig.”

Mae’n dadlau hefyd nad yw Cymdeithas yr Iaith yn addas i gyflawni’r rôl hwnnw, ac y byddai ceisio newid y mudiad yn arwain at golli cefnogaeth.

“Heb weithredu uniongyrchol a’i gwmpawd moesol mae’n bosib y byddai sylfaen Cymdeithas yr Iaith yn edwino,” meddai.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei bod hi’n “croesawu’r ddadl sy’n digwydd am ddyfodol y mudiad”.

Gallai strwythur Cymdeithas yr Iaith Gymraeg newid mewn ffordd “radical” yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, meddai.

“Mae erthyglau Huw Lewis, Simon Brooks, Angharad Tomos a Menna Machreth i gyd wedi codi cwestiynau sydd yn werth eu hystyried,” meddai Bethan Williams.

“Bydd angen i ni addasu ar gyfer y dyfodol, yn enwedig er mwyn atal y dirywiad yn y nifer o gymunedau Cymraeg eu hiaith.”

Dywedodd y bydd yn cyflwyno’r neges mewn cyfarfod i drafod dyfodol y mudiad yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

‘Newid er lles’

Mae angen i’r Gymdeithas “fod yn agored ac yn barod i newid er lles y Gymraeg, lle bynnag y mae hynny yn ein harwain fel mudiad,” meddai.

“Nid yw’r Gymdeithas yn fodlon gweithredu yn arwynebol fel y cwango, felly mae’n rhaid i’r broses adnewyddu hon fod yn hollol gynhwysol ac agored.”

“Mae angen cael barn pawb sydd yn poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, yn hytrach na dilyn yr un hen fformiwla am ein bod ni’n gyfforddus gyda fe.

“Mae yna lawer iawn wedi newid yng Nghymru dros y degawdau diwethaf, ac mae rhaid i ni fod yn barod i newid hefyd.

“Nid yw’r Gymdeithas erioed wedi bod ag ofn herio’r ‘status quo’ ac fe fyddwn yn parhau ar yr un trywydd.”

Fe fydd Cyfarfod y Gymdeithas yn digwydd ddydd Sadwrn yma, Ionawr 7fed am 10:15yb, yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth.

Mae’n agored i bob aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jon Tomos , Ionawr 6, 2012 1:36 pm

Falch bod y Gymdeithas yn fodlon edrych i’r dyfodol a chanolbwyntio ar gymunedau Cymraeg. Ond yw’n hyfryd gweld mudiad sydd yn awyddus i newid?

§

Ifor Hughes , Ionawr 6, 2012 7:07 pm

Dwi’n rhoi sylw mawr i bopeth ma Simon Brookes yn i ddeud.

§

John , Ionawr 6, 2012 8:11 pm

Ma’n un o fy narlithwyr yn y coleg, mae fe yn uchel iawn ei barch ym maes acedemia cymraeg

§

Hirben , Ionawr 6, 2012 8:32 pm

Gwnaeth Cymdeithas yr Iaith waith ardderchog yn y gorffennol ond mae protestio yn “passe” erbyn heddiw. Mae angen gweithio oddi mewn i’r sefydliad – llawer mwy effeithiol, yn enwedig nawr fod gennym Gynulliad ein hunain. Efallai y dylai’r mudiad hyd yn oed newid enw, delwedd, logo ac yn y blaen. Mudiad newydd hyderus i adeiladu ar lwyddiannau C. yr I

§

Ceri , Ionawr 6, 2012 9:43 pm

Hirben , Ionawr 6, 2012 8:32 pm

Gwnaeth Cymdeithas yr Iaith waith ardderchog yn y gorffennol ond mae protestio yn “passe” erbyn heddiw. Mae angen gweithio oddi mewn i’r sefydliad – llawer mwy effeithiol, yn enwedig nawr fod gennym Gynulliad ein hunain

Dyna oedd y tiwn yn erbyn y Gymdeithas erioed – yn lle’r Cynulliad – y Swyddfa Gymreig odd hi gynt. Bydd prostestio wastad yn ‘passe’ i bobol sydd yn credu bod protesto yn rhywbeth i wneud yn dy ieuenctid ffol..

§

Tractor , Ionawr 7, 2012 12:28 am

Dwi’n gwirioni ar yr Athro Ddoethur Seimon Brwcs. Mae pob sillaf ddaw o’i geg yn diferu o athrylith. Ac yn fwy na hynny, fe yw’r intelijentsia cyntaf yng Nghymru i sefyll yn gadarn dros ei gredo a phrotestio yn hytrach na galw ar eraill i wneud hynny. Gwych iawn.

§

martha , Ionawr 7, 2012 5:17 pm

Ar ol y ffasiwn flwyddyn- y Gwanwyn Arabaidd, Protestiada myfyrwyr, symydiad Occupy, protestiadau Groeg, protestiaday Indignante yn Sbaen… sut mae posib dweud fod protestio yn passe?? mae protestio yn fwy ac iach, ac yn mwynd trwy adfywiad os rywbeth!!

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Ionawr 7, 2012 8:36 pm

Martha, ond pa mor llwyddiannus fydd protestiadau Occupy a phrotestiadau’r myfyrwyr? Y gwirionedd yw na fydd y naill na’r llall yn llwyddiannus. Mae C y I wedi llwyddo yn y mwyafrif o’u hamcaion gwreiddiol ac felly mae hi’n bryd gweithredu yn awr o’r tu mewn, drwy bobl ddylanwadol yn y gwahanol sefydliadau, nifer helaeth ohonynt yn gefnogol i hybu’r Gymraeg.
Mae’r Gwanwyn Arabaidd yn fater gwahanol, mae nhw dipyn ar ei hol hi o’i gymharu a ni yma yng Nghymru ym mhob ffordd. Mae carfan yn Sbaen a Groeg yn protestio yn erbyn toriadau sydd yn anochel. Heb y y toriadau bydd hi’n waeth ar y gwledydd hynny, a buan y dont i sylweddoli hynny, a bydd y protestiadau byn peidio.

§

Guto , Ionawr 8, 2012 12:47 am

Hirben – Heb y toriadau, bydd hi’n waeth ar FANCIAU y gwledydd hynny. Mae’r tactegau austerity i gyd i weld yn anelu at gronni mwy o rym mewn cyfalaf a chyflyru mwy o fenthyca gan y cyfnewidwyr arian angylaidd sy’n gyfrifol am ein holl lewyrch: ffwlbri llwyr. Mae’n bryd protestio, ac mae’n bryd sylweddoli bod ein harweinwyr – o ba bynnag blaid neu plc – wedi bradychu pawb er eu lles eu hunain.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.