
Mae’r Heddlu’n parhau i chwilio am ddyn 32 oed o’r Wyddgrug sydd heb ei weld ers yn gynnar bore Mercher.
Daethpwyd o hyd i gar Michael Murphy, sef Volkswagen Polo lliw coch, ar y ffordd tua’r gorllewin dros y bont newydd sy’n arwain o Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy i’r Fflint. Ond mae Michael ei hun dal ar goll.
Mae timoedd achub arbenigol wedi bod yn archwilio’r Afon Ddyfrdwy ger lle darganfuwyd ei gar, ac mae Gwylwyr y Glannau, a’r RNLI, hofrennydd yr Heddlu a chŵn yr Heddlu wedi bod yn rhan o’r chwilio yn yr ardal amdano.
Mae’r Heddlu wedi rhyddhau mwy o wybodaeth am y dillad oedd Michael yn ei wisgo pan y’i gwelwyd ef ddiwethaf wrth iddo adael ei fan gwaith gyda chwmni Convatec ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Roedd yn gwisgo cap fflat llwyd tywyll, cot lwyd tywyll hir, jîns glas ac esgidiau hyfforddi Adidas gwyn gyda thair streipen ar yr ochr.
“Rwy’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Michael neu sy’n gwybod lle mae o i gysylltu â’r Heddlu ar unwaith,” meddai’r Ditectif Arolygydd Alun Oldfield. “Rydw i hefyd yn annog unrhyw un a adawodd yr ystâd ddiwydiannol yng Nglannau Dyfrdwy dydd Mercher i geisio cofio’n ôl ac i gysylltu â ni os ydynt yn cofio gweld rhywun yn gadael car neu’n cerdded wrth y bont.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sy’n gwybod ble mae Michael gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (galwadau o Gymru) neu 0300 3300 101.