Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Arweinyddiaeth Plaid Cymru – dwy ar y blaen, medd y bwcis

Ionawr 9, 2012 15:50, Diweddarwyd am 16:08


Y pedwar ymgeisydd
Mae’r bwcis wedi rhoi Elin Jones a Leanne Wood yn agos iawn ar y blaen heddiw yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae cwmni betio William Hill wedi rhoi Elin Jones ar y blaen o 11/10 a Leanne Wood yn agos iawn tu ôl ar 9/4 – tra bod y dynion dipyn ar ôl.

Ar hyn o bryd, mae Dafydd Elis Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionydd, ar 3/1, tra bod Simon Thomas, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, ar 10/1.

Daw’r ods diweddaraf ar ddiwrnod sydd wedi gweld enwau cyfarwydd iawn gwleidyddiaeth Cymru yn taflu eu pwysau tu ôl i’r ddwy ddynes, gyda’r cyn-AS Adam Price yn datgan ei gefnogaeth i’r AC o’r Cymoedd, Leanne Wood, ac Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, yn ychwanegu ei enw ar restr cefnogwyr yr AC o Geredigion, Elin Jones.

Wrth roi ei gefnogaeth i Leanne Wood heddiw, dywedodd Adam Price fod yr Aelod Cynulliad 40 oed yn addo angerdd, uchelgais ac egwyddor newydd i wleidyddiaeth Cymru, a’i bod hi’n cynrychioli “popeth sy’n ddiffygiol yn yr hen arweinyddiaeth Lafur.”

Ond wrth rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones mewn darllediad fideo heddiw, dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, mai’r ddynes o Geredigion oedd â’r “weledigaeth” i arwain Cymru, a bod ganddi’r “dewrder oedd mor amlwg ymhlith arweinwyr Plaid Cymru y gorffennol.”

Wrth wneud pwynt fydd yn ddiddorol i’r rhai sy’n trio gwneud cymhariaethau rhwng yr Aelod Cynulliad dros etholaeth Ceredigion, a’r Aelod Cynulliad dros ranbarth Canol De Cymru, dywedodd Hywel Williams fod gan Elin Jones “y dewrder i sefyll mewn sedd unigol, ac ennill y sedd honno dro ar ôl tro.”

Ond yn ôl Adam Price, mae Leanne Wood yn cynrychioli’r “genhedlaeth newydd” o wleidydd sydd ei angen i arwain Cymru.

Gellir gwylio fideo cefnogaeth Hywel Williams AS i Elin Jones isod:

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Andrew , Ionawr 10, 2012 9:48 am

Mae’n ddrwg gen’ i, ond rwy’ wedi darllen y darn uchod sawl gwaith ac yn methu gwneud synnwyr o’r frawddeg sy’n dweud fod Leanne Wood yn “…cynrychioli “popeth sy’n ddiffygiol yn yr hen arweinyddiaeth Lafur.”” Esboniad?

§| Nodi camddefnydd

Ann , Ionawr 10, 2012 10:36 am

Medrir dehongli hyn fel ei bod yn cynrychioli popeth gwael am Hen Lafur!! Efallai ei bod, rheswm da i beidio a phleidleisio drosti.

§| Nodi camddefnydd

jones2 , Ionawr 10, 2012 1:53 pm

Aelodau cyffredin Plaid Cymru sy’n ethol yr arweinydd ac nid y bwcis, ac mae fy mhleidlais i yn cyfrif yr un faint yn union ag un Adam Price a Hywel Williams.

§

Pads , Ionawr 10, 2012 3:41 pm

@Ann “hen lafur” – pam dych chi’n meddwl hynny? Neu dim ond yn labelu’n ddiog wyt ti?

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 10, 2012 5:44 pm

“…diosg ffwlbri Prydeindod…”-ebe Hywel Williams. Pam uffar na ddaru Plaid Cymru ddelufro a)papur dyddiol Cymraeg b)atodiadau-rhai newydd, eraill eisioes mewn bodolaeth c)gwefan.
Diolch am golwg360. Ond tydi un peth allan o dri ddim digon da. Job gwleidyddion weithiau ydi malu awyr a chynnig gobaith ar gyfer y dyfodol…perswadiwch ni bobl gyffredin fod gan y Gymraeg ddyfodol disglair o’i blaen.
Ni allaf i lwyr gofleidio cenedlaetholdeb. Ond fe wn i un peth-nid yw’r diwylliant Cymraeg cyfoes yn ddigon difyr a bywiog ar hyn o bryd.
Rhaid i’r blaid yma (yr un sy’n honni ei bod hi’n malio mwy am yr iaith nag unrhyw blaid arall) ddeffro a chyfathrebu gweledigaeth glir er mwyn creu gwell byd Cymraeg!

§| Nodi camddefnydd

Ann , Ionawr 11, 2012 11:23 am

Pads – roedd fy sylw i fod ar gyfer yr erthygl ‘Adam Price yn cefnogi Leamme Wood’, os darllenwch hwnnw fe welwch fod Adam Price yn cael ei ddyfynnu “Leanne yw popeth sy’n ddiffygiol yn yr hen Lafur” – nid fy ngeiriau i mohonynt. Fedwrch chi wneud synhwyr ohonynt? Fedra i ddim.

§| Nodi camddefnydd

Anne Baik , Ionawr 12, 2012 12:23 pm

@Ann ayyb
Mae’n amlwg beth yw ystyr brawddeg Adam Price:
‘le mae hen Plaid Lafur yn wag o syniadau bellach mae Leanne, ar y llaw arall, yn llawn ohonynt.
Mae’r dyn yn y fideo yn fy atgoffa o rywun sy’n dwym yn ei wely ac yn tynnu’r garthen dros ei ben pan mae’r gwynt yn mynd bant â’r tô.

§

Hefin , Ionawr 13, 2012 1:50 pm

Martin, hisht rwan am y papur ma.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 13, 2012 4:25 pm

Na Hefin. Tydi “hisht” swta a nawddoglyd ddim yn cyfrannu llawer i drafodaeth Gymraeg.
Malu awyr am “ddiosg ffwlbri Prydeindod” heb fod wedi delufro papur dyddiol…tyfwch i fyny wir Dduw!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.