Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Nifer gwylwyr S4C wedi cynyddu yn 2011

Ionawr 9, 2012 16:20


Mae Prif Weithredwr S4C wedi croesawu “canlyniadau calonogol iawn” ar ôl i ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw ddatgelu bod nifer gwylwyr S4C “wedi cynyddu” dros y flwyddyn 2011.

O ran cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru yn 2011 fe welwyd cynnydd o 7,000 – i fyny o 467,000 yn 2010 i 474,000, meddai’r ffigyrau.

Dros y Deyrnas Unedig, mae cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol y Sianel i fyny 2,000 ar y flwyddyn – o 616,000 yn 2010 i 618,000 yn 2011.

Mae cynnydd sylweddol wedi bod hefyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg fu’n gwylio S4C yn 2011. Y cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol yn ystod y flwyddyn oedd 223,000 o wylwyr yng Nghymru – 26,000 yn uwch na 2010, meddai’r sianel.

Yn yr oriau brig, gwelwyd cynnydd o 1,000 ar y ffigwr yn 2010 – i fyny o 28,000 i 29,000.

“Mae’r canlyniadau hyn yn galonogol iawn ac yn profi bod mwy a mwy o wylwyr yn cael eu plesio gan yr amrywiaeth eang o raglenni sydd ar gael ar S4C,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C.

“Ein nod, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd ariannol fel yr un sy’n bodoli ar hyn o bryd, yw sicrhau bod ein harlwy ar y sgrin yn un o safon uchel ac yn un sy’n bodloni nifer cynyddol o wylwyr yng Nghymru yn bennaf ond hefyd yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Ionawr 9, 2012 6:16 pm

Hmm, ffug diogelwch ystadegau, false sense of security fel petai? Yn sicr ni fydd pobl yn bodloni’n hir gyda dwli ailddarlledu a dangos Rhydian, a chyngherddau digon di-ysbryd yr eisteddfod dro ar ôl tro, ond mae na welliant wedi bod ar ran comedi ac mae hyn i’w groesawi.

§

Ifor Hughes , Ionawr 9, 2012 7:14 pm

Un fluke oedd y comedi – y gyfres Bim Byd yna. Nid fluke ar ran y tim cynhyrchu ond fluke ar ran S4C.

§

Jones , Ionawr 9, 2012 9:25 pm

Dwim yn dalld pam bod rhaid ail ddarlledu “rhaglenni” fel Rhydian a OMA.
Pam ddim dangos pethau or Archif? o leiaf fysa hynny yn ddiddorol i bawb!

§

Gerwyn Preis , Ionawr 9, 2012 10:40 pm

Cytuno Jones…..!!!! Ma ‘na beth wmbrath o stwff ar gael o Jarman ac Ed H a’r Trwyna mlaen at Maffia, Brodyr, Alarm, Jess, Sobin ac ati…… Fideo 9…..os ydan nhw’n medru ail wampio Cofio allan o Dinas…toes posib bod modd gneud hynny ‘fo chydig o gerddoriaeth….? Dim ond bo na ddim Dafydd Iwan….da ni di clywad digon ganddo fo….. a DIM Brodyr Gregori!!!

§

cris , Ionawr 10, 2012 9:59 am

Rhyfedd sut mae rhai pobl yn meddwl mai eu chwaeth nhw yw’r unig chwaeth “gywir”. Mae’n siwr bod ‘na bobol fase’n hoffi gweld Maffia, Y Brodyr ac ati o’r Archif. Ond mae’r un mor sicr bod ‘na eraill fase heb ddiddordeb o gwbl. Yn yr un modd, mae rhai pobl yn casau rhaglenni Rhydian – eraill wrth eu bodd.
Nid pawb sy’n gwirioni run fath!

§

Gwyn, Cwm Taf , Ionawr 10, 2012 11:48 am

Amhosib plesio pawb. Yn enwedig bali Cymry Cymraeg!!!

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Ionawr 10, 2012 12:05 pm

Amrywiaeth sydd bwysig, nid yw ailddarllen rhaglenni Rhydian ar bob cyfle yn sicrhau amrywiaeth, ond ailadroddus a diflas yw’r arlwy wedyn, ac mae’n troi pobl oddi ar y sianel.

A’i Cris Dafis yw Cris uchod? Os felly onid oeddech yn trydar eich anfodlonrwydd parthed Rhydian hefyd os gofia i’n iawn?

§

Gerwyn Preis , Ionawr 11, 2012 1:52 pm

@Cris….oeddwn i’n awgrymu mai MOND hwnnw fydda’n cael ei ddangos? Nagoeddwn mwn….. ! MOND Rhydian, OMA, Elin Fflur, Glanaethwy ac ati da’n ni’n ei gael dyddia yma… a rheini, fel cafodd ei grybwyll uchod, yn cael eu hail adrodd hyd syrffed….. Dengys hyn bod rhaid i artistiaid sydd a llai o broffil (oherwydd mympwy S4C a’r cwmniau ‘annibynnol’ – ac ma hynny’n bwynt diddorol – Pa mor annibynnol ma Bwmerang a’u rhaglen Llais i Gymru? Mae cysylltiadau ‘cartelaidd’ yn bodoli yno yn ol yr hyn a glywais gyda’r cwmni Decca/Universal) yn gorfod ymddangos ar Noson Lawen i gael llwyfan i’w cerddoriaeth…. tasa mwy o raglenni cerdd adloniannol yn cynnig amrywiaeth, fydda hynny yn help garw i ni i gyd…ond na…gormod o bwdin fydd hi….. a’r nesa ar y fwydlen fydd y Tri Tenor…..gwatshiwch…..

§

CGT , Ionawr 11, 2012 7:22 pm

Mi fuaswn i wrth fy modd gweld Maffia a’r brodyr ar yr archif .
Mi dybiaf fod ‘Only Men’ yn ddipyn o ffefryn i ambell i un , ofiwh.

§

eirwen haf , Ionawr 12, 2012 10:51 pm

Gerwyn yn llygad ei le! Gob bydd y boi newydd gyda mwy o sens!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.