Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Lansio rhif 101 yr heddlu ar draws Prydain

Ionawr 11, 2012 10:56


Mae llwyddiant rhif 101 yr heddlu yng Nghymru yn golygu y bydd yn cael ei ddefnyddio ar draws Prydain ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys.

Golyga hyn fod pob  Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio’r un rhif.

101 yw’r rhif sy’n cael ei ddefnyddio i adael i’r heddlu wybod am drosedd neu anrhefn os nad yw’n fater brys.  999 sy’n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer argyfyngau ac achosion brys.

Mae 101 yn rif hawdd i’w gofio ac mae’n lleihau’r pwysau ar y rhai sy’n ymateb i alwadau 999, meddai’r heddlu.

“Mae’n wych gweld rhif 101 yn cael ei ddefnyddio ar draws Prydain,” meddai Nick Ingram ar ran yr Heddlu.

“Roedden ni’n falch iawn o lansio’r rhif yng Nghymru yn 2009. Mae wedi bod yn llwyddiannus yn heddlu Dyfed-Powys.

“Mae nifer y galwadau i’r rhif wedi cynyddu ers i ni ei lansio. Ar gyfartaledd, rydan ni’n cael 15,000 o alwadau’r mis,” meddai cyn egluro mai ychydig llai na 6,000 o alwadau oedd y rhif yn ei gael yn y 6 mis cyntaf wedi’i lansio.

Gellid darllen fwy o wybodaeth am rif 101 ar www.police.uk/101 neu www.dyfed-powys.police.uk

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.