
Mae Cadeirydd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd wedi dweud wrth Golwg360 heddiw fod cyfarfod y grŵp gyda’r Performing Rights Society (PRS) a’r BBC wedi bod yn “dda a buddiol”.
Roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal heddiw i drafod sefyllfa taliadau i gerddorion Cymraeg.
Fe wnaeth streic tridiau gan 500 o gerddorion Cymru ddod i ben cyn y Nadolig yn dilyn trafodaethau gyda’r BBC.
Roedd y Gynghrair wedi dechrau streic fis Rhagfyr yn atal Radio Cymru rhag chwarae eu caneuon. Roedden nhw’n streicio yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.
‘Gwneud ymchwil’
“Mae’r BBC a’r PRS yn mynd i fynd yn ol nawr a gwneud ymchwil ar yr opsiynau a godwyd a’r anghysonderau sy’n bodoli ac yn mynd i edrych ar eu systemau i gyd,” meddai Dafydd Roberts, Cadeirydd y Gynghrair wrth Golwg360 yn dilyn y cyfarfod.
Fe fydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal o fewn pythefnos, meddai.
“Rydan ni’n hapus bod trafodaethau buddiol wedi digwydd a bod pawb yn llawer mwy ymwybodol o’r problemau. Mae hynny yn gam ymlaen. Mae’n dda hefyd ei bod nhw’n mynd yn ol i edrych ar yr holl opsiynau,” meddai.
Roedd Prif Weithredwr PRS Robert Ashcroft yn bresennol yn y cyfarfod heddiw ynghyd â Guy Fletcher Cadeirydd PRS, Mark Lawrence Cyfarwyddwr Aelodaeth a Hawliau PRS, James Lancaster Pennaeth Materion Busnes a Hawliau BBC a Rob Kirkham, Pennaeth Cytundebu Hawlfreintiau’r BBC.