Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Mohammad Asghar yn “adlewyrchu’n wael iawn ar y Ceidwadwyr”

Ionawr 13, 2012 08:33, Diweddarwyd am 14:38


Mohammad Asghar
Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol Mohammad Asghar yn wynebu rhagor o feirniadaeth heddiw ar ôl iddi ddod i’r amlwg yr wythnos hon ei fod wedi cyflogi ei ferch i weithio iddo.

Roedd y Tori eisoes yn cyflogi ei wraig.

Yn ôl cyn-Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yr agwedd mwyaf syfrdanol am y mater yw’r ffaith fod Mohammad Asghar wedi cael ei dderbyn i’r Ceidwadwyr ar ôl gadael Plaid Cymru am nad oedden nhw’n gadael iddo gyflogi ei ferch.

“Petai rhywun eisiau gadael Plaid Cymru a dod atoch chi am y rheswm yna – wel fydden i ddim wedi gwrando’n hir iawn arnyn nhw,” meddai Rod Richards.

Mae e hefyd yn dweud fod nifer o aelodau’r Blaid Geidwadol yn ne ddwyrain Cymru yn ddrwgdybus iawn o gymhellion Asghar.

“Os yw e’n symud plaid er mwyn cael un sydd yn fodlon iddo fe gyflogi aelodau o’i deulu – mae’n rhaid i chi gwestiynu pa mor daer yw e dros wleidyddiaeth gwahanol bleidiau,” meddai Rod Richards.

Mae Natasha Asghar wedi ymuno â thîm ei thad fel swyddog y wasg dros dro. 

Yn ôl Plaid Cymru mae’r sefyllfa’n “adlewyrchu’n wael iawn ar y Blaid Geidwaol”.

“Roedd yn anochel y byddai Mr Asghar cyflogi ei ferch ar ryw adeg,” meddai llefarydd y Blaid.

“Gadawodd Plaid Cymru gan fod ein Aelodau Cynulliad wedi penderfynu peidio â chyflogi rhagor o aelodau’r teulu ar y pryd, a dywedwyd wrtho na ddylai roi swydd i’w ferch felly.

“Roedd panel annibynnol wedi dod i’r casgliad na ddylai Aelodau Cynulliad gyflogi aelodau newydd o’u teuluoedd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig heddiw fod Mohammad Asghar wedi “recriwtio help ei ferch dros dro, er mwyn ateb ei ddyletswyddau dros dro fel Aelod Cynulliad.

“Mae e wedi dilyn canllawiau llym y Cynulliad – sydd yn sicrhau bod yn agored ac yn dryloyw – ar bob achlysur, a bod y swydd sydd yn cael ei gwneud dros dro yn cael ei hysbysebu yn agored.”

Ond ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth Golwg360 nad oedd e’n gwybod eto pryd byddai’r swydd llawn amser honno yn cael ei hysbysebu, ond fod hon yn swydd “bendant dros-dro”.

Mae dymuniad Asghar i ddefnyddio arian y trethdalwyr i gyflogi aelodau teuluol wedi achosi cryn stŵr yn y gorffennol.

Yn ôl yn 2009 fe adawodd Mohammad Asghar Blaid Cymru ar ôl i’r Blaid ddweud wrtho nad oedd hi’n bosib iddo gyflogi ei ferch fel swyddog y wasg, oherwydd polisi mewnol y Blaid ar y pryd.

Roedd y polisi yn dilyn argymhelliad gan banel annibynnol oedd yn dweud na ddylai Aelodau Cynulliad benodi aelodau o’u teuluoedd eu hunain i weithio iddyn nhw.

Mae’r Cynulliad bellach wedi derbyn y byddai gwahardd Aelodau Cynulliad rhag penodi aelodau o’u teuluoedd i weithio iddyn nhw yn erbyn y gyfraith, ond wedi pwysleisio y dylai pob ymgeisydd fynd trwy broses benodi cwbwl dryloyw ac agored. 

Trafferthion teuluol…

Nid dyma’r tro cyntaf i Mohammad Asghar, gŵr 66 oed gafodd ei eni ym Mhacistan, dynnu pobol i’w ben dros faterion teuluol.

Yn ôl ym mis Rhagfyr bu’n rhaid iddo ymddiheuro ar ôl iddo anfon negeseuon i aelodau’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn iddyn nhw gefnogi ei wraig i sefyll am sedd cynghorydd Ceidwadol arall a fu farw llai na 48 awr ynghynt.

Yn yr e-bost at aelodau dywedodd ei fod yn “drist iawn” i glywed am farwolaeth y cynghorydd ond fod “pethau eisoes yn symud yn eu blaen” – cyn ychwanegu y byddai’n “ddiolchgar iawn petae chi’n gallu ystyried Firdaus Asghar [ei wraig] i sefyll yn yr etholiadau”.

Yn dilyn hyn fe ddywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig na fyddai Firdaus Asghar yn sefyll am y sedd, a bod Mohammad Asghar yn ymddiheuro am “unrhyw dramgwydd” oherwydd yr e-bost.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Ionawr 13, 2012 10:00 am

Just oherwydd bod y swydd yn cael ei hysbysebut, diom yn feddwl bod e’n deg.

Dwi or farn dylai’r Comisiwn yn y Cynulliad penderfynnu pwy syn cael eu cyflogi (rhoi yr interview ayyb) nid yr Aelodau – i wneud e’n hollol deg, ac hefyd oherwydd bod y Comisiwn yn arfer recriwtio ac yn deall pa rhinweddau sydd ei angen!

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Ionawr 13, 2012 11:09 am

Gwarth….dim llai. Dylai’r holl bleidiau sicrhau nag ydy’r math hwn o berson yn cael derbyn swydd gyfrifol yn y Cynulliad a chamddefnyddio arian cyhoeddus. Dio’m ots pa blaid…… siomedig iawn….

§| Nodi camddefnydd

Jones , Ionawr 13, 2012 11:37 am

Mae o wedi “defnyddio’r” Cynulliad i helpu ei deulu ac ei hyn.

Ond hefyd mae’r pleidiau wedi defnyddio fo.
Yn gyntaf, Plaid yn gadael o i fod yn ymgeisydd – a oedd e yr ail gorau yn de ddwyrain Cymru????,
wedyn gadael ei ferch o redeg am sedd yn Ewrop – a oedd hi un o 4 gorau’r Blaid????

Ac wrth gwrs, y Ceidwadwyr wedi’i ddefnyddio fo i gael scoop bach yn y papur newydd.

§| Nodi camddefnydd

Ann , Ionawr 13, 2012 12:05 pm

Nid yw’r person hwn yn haeddu bod yn aelod Cynulliad. Pa rinwedd oedd ganddo sgwn i, fod y pleidiau yn heidio i’w dderbyn gyda breichiau agored?

§| Nodi camddefnydd

Osian , Ionawr 13, 2012 1:09 pm

Na’th neb ddod allan o’r ffars hon yn dda iawn – Plaid Cymru, y Ceidwadwyr nag Ashgar ei hun.

Pennawd braidd yn gamarweiniol ‘fyd – ma’n edrych fel mai Ashgar ei hun sy’n deud hynny ei hun!

§| Nodi camddefnydd

Emyr G , Ionawr 13, 2012 2:40 pm

Am ffwl.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 13, 2012 4:00 pm

Mae’n wleidydd anneallus. Joc.Gwych o beth fod gennym aelod o dras ethnig lleiafrifol yn y Cynulliad. Ond y clown yma? Rhaid cael safon gwell o aelod Cynulliad.
Cyffredinol-Neges i Blaid Cymru- agorwch eich llygaid- mae nepotistiaeth yn digwydd yn rhy aml tu fewn i’r byd Cymraeg. Chi yw’r blaid sy’n honni eich bod yn malio mwy am y byd Cymraeg na’r un blaid arall. Felly deffrwch.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Ionawr 13, 2012 7:23 pm

Cawn y gwleidyddion yr ydym yn eu haeddu.

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Ionawr 13, 2012 8:02 pm

Nid yw Plaid Cymruu yn gwneud unrhyw ffafrau gyda’u hunain yn dweud fod hyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar y Ceidwadwyr, tra’i fod wedi bod yn aelod o Blaid Cymru!! Ymddengys i mi mai person diegwyddor yw hwn sydd yn defnyddio pleidiau i’w fantais ei hun. Mwyaf ffwl y ddwy blaid ddweda i.

§| Nodi camddefnydd

CGt , Ionawr 13, 2012 8:14 pm

Pam na fuasai Mr Ashgar wedi dewis gweithio i S4C ?
Buasi wedi cael cyflogi faint fynnai o’i blant, ewythrod , cefndryd ayb , a ni fuasai neb wedi sylwi ! . Yn sicr , buasai ei Gymraeg wedi bod yn well na trwch gweithwyr y sefydliad gonest a anrhydeddus hwnnw .

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Ionawr 15, 2012 2:44 pm

I fod yn deg i’r hen Oscar yn hyn ma fe’n gwneud yw gweithredu yn unol ag arferion busnes derbyniol ei wlad enedigol. Sorry ond yn y tamed o’r byd ma fe’n dod o hi – chi’n hero os chi’n cael job gyda’r Llywodraeth a wedyn yn defnyddio hynny i gyflogi aelodau eraill o’r teulu. Ma hyn yn fact ac mae’n hen bryd i’r trendy lefties sylweddoli hyn – y cam mwya a wnaethpwyd a’r dosbarth gweithiol yng Nghmru oedd agor y llif-ddorau i fewnlifiad o Wlad Pwyl ayyb i Gymru – chewch chi fyth oherywdd hyny wage inflation eto ymysg yr unskilled. Ma miliynnau o bobl ifanc bright yn dod oddi ar y production lines yn Nwyrain Ewrop sy’n fwy na pharod i wneud unrhyw swydd yng Nghymru am y minimum wage !

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Ionawr 15, 2012 10:37 pm

Mae Ifor Hughes yn dweud beth mae llawer o bobl yn wybod ond ofn dweud. Wrth gwrs fod y mewnlifiad o dramor yn golygu bod llai o swyddi i bobl leol. Mae nifer uchel o Bwyliaid ac eraill yn yr ardal hon a nifer o bobl ifanc yn methu dod o hyd i swyddi, neu heb gael y cyfle i ddysgu crefftau fel bod yn blymwyr, trydanwyr etc Nid wyf yn beio’r Pwyliaid eu hunain, maent yn ymddangos yn gwrtais ac yn weithgar ond rwy’n beio’r system sydd yn caniatau iddynt ddo yma a chael swyddi ar draul y bobl brodorol.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.