Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Siambr newydd i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon?

Ionawr 13, 2012 14:32


Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi awgrymu creu siambr newydd o aelodau etholedig os fydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.

Yn ôl adroddiad ar wefan The Guardian mae Carwyn Jones wedi son am siambr gyda thraean o seddi ar gyfer Cymru, traean ar gyfer Lloegr a thraean ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Mae Prif Weinidog Cymru yn mynychu cynhadledd o Gyngor Prydain ac Iwerddon yn Nulyn sy’ hefyd yn cynnwys Dirprwy Brif Weinidog Prydain Nick Clegg, Alex Salmond Prif Weinidog yr Alban a Peter Robinson Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Yn y gynhadledd mae Alex Salmond wedi addo y bydd yn cyhoeddi ei gynigion ar gyfer refferendwm tros annibyniaeth i’r Alban ar Ionawr 25.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Andrew , Ionawr 13, 2012 5:16 pm

Rwy’n medru gweld y Saeson yn derbyn traean o seddau mewn siambr o’r fath. Ddim!

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Ionawr 13, 2012 6:35 pm

Carwyn Jones eto’n pwysleisio pam fod angen Annibyniaeth, nid yw cenedl ag ond 3 miliwn o bobl yn gallu parhau mewn undeb gyda chymydog sydd â 50 miliwn, rydym eisoes yn cael ein dylanwadu a’n domiwnyddu Carwyn, le yffarn ti di bod?

§

Jones , Ionawr 13, 2012 7:00 pm

Dim ond os mae’r Alban yn gadael??? Wel ba am nawr?

650 o ASau
40 o Gymru
59 o’r Alban
18 o G.Iwerddon
= 107 ASau

Mae’r Saeson yn dominyddu y siambr yn barod!!!!

§| Nodi camddefnydd

crebwyll , Ionawr 14, 2012 2:26 am

O diar am daeogrwydd diflas di-alw amdano. Mae o gymaint o embaras bod yn Gymro hefo’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban a’r giwad di-asgwrn cefn yda ni ein hunain wedi’u hethol fis Mai llynedd.

§

CGT , Ionawr 14, 2012 8:29 am

Gyda Cymro fel hwn, pwy sydd angen Saeson ?

§

Lewys Arôn , Ionawr 14, 2012 8:35 am

Well dwi’n cytuno â Carwyn.. O leia bydd yn siambr deg wedyn. Ond annibyniaeth sydd wir eisiau arnom

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Ionawr 14, 2012 1:09 pm

Ond pam galw amdano fe nawr Lewys? Mafe di bod felna am 300 o flynyddoedd bron, beth sydd mor wahanol nawr? Jyst achos bod na bosibiliad fydd yr Alban yn dod yn Annibynnol, nid yw hwnna’n neud fawr o wahaniaeth i’r sefyllfa presennol, y gwir yw meddwl am fantais gwleidyddol ei blaid ydyw Carwyn Jones.

§| Nodi camddefnydd

John Vaughan Williams , Ionawr 14, 2012 6:04 pm

Mae eisiau gwledigaeth dros Gymru fan hyn! Nid oes gan Lafur weledigaeth dros Gymru! Rydyn ni ddim byd ond Sir arall o Loegr iddynt.

§

Rhyd Fach , Ionawr 15, 2012 1:09 am

Ma isie ni gal Gymru rydd, stim sens bo ni’n atebol i Loegr. Gadewch i ni drafod yn Ewrop, masnachu da’r byd. Ma rhaid i ni yma yng Nghymru gael arweinyddiaeth well na’r presennol, ma rhaid i ni gael gweledigaeth genedlaethol in economi a’n cymdeithas.

§| Nodi camddefnydd

Sion , Ionawr 15, 2012 11:55 am

Come on Carwyn, bydden i’n disgwyl iddo fe alw am ‘devo max’ i Gymru fel minimum os yw’r Alban yn mynd yn annibynnol. Ble mae’r uchelgais?

§

Ifor Hughes , Ionawr 15, 2012 2:22 pm

Gyfellion yn raddol da ni cyrraedd the end game .

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 15, 2012 3:53 pm

Yn anffodus , nid oes gan Carwyn Jones , na’r Blaid Lafur ‘Opening game ‘ chwaith ! . O bedair gwlad y DU (fel ac y mae), y rhain sydd gyda’r llywodraeth mwyaf di-glem. Nid wyf yn cytuno a Cameron, ond gallaf weld beth yw ei gyfeiriad a’i weledigaeth . Yr unig beth a welaf yn Carwyn Jones ydi diogyn
sydd ddim yn gallu sillafu Cymreictod , heb son am ei arddel .

§

Ifor Hughes , Ionawr 16, 2012 4:34 am

Gyfellion nid mater o ‘ni’n’ gadael Lloegr fydd hi ond Lloegr yn gadael ni – smo Lloegr a Chymru’n sexy – ma’r Alban yn sexy ma Lloegr bach yn llai sexy – Cymru na gwlad Neil Kinnock – they will file for divorce from us ! Beth ti am wneud wedyn Carwyn ?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.