
Imogen Thomas
Mae seren Big Brother a chyn-gariad Ryan Giggs yn poeni ei bod hi ymhlith nifer o fenywod o Gymru sydd wedi derbyn mewnblaniadau’r fron gan gwmni PIP o Ffrainc.
Mewn neges bryderus ar Twitter, dywedodd Imogen Thomas ei bod yn poeni’n fawr bod ei mewnblaniadau wedi dod o gwmni PIP yn Ffrainc, sydd wedi cael ei gau lawr yn ddiweddar ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod yn defnyddio silicôn nad oedd yn cyrraedd safonau meddygol.
Dywedodd y Gymraes 29 oed neithiwr ei bod hi’n “poeni’n fawr iawn fod gyda fi fewnblaniadau PIP. Fi fod i gael gwybod mor gynted a phosib. Mae gyda fi gymaint o ofn, fi’n gweddio nad oes e.”
Cafodd Imogen Thomas ei mewnblaniadau yn 2008. Fe werthodd cwmni Ffrengig PIP 40,000 o fewnblaniadau rhwng 2001 a 2010.
Imogen Thomas yw’r diweddaraf o gyfres o fenywod enwog sydd wedi dweud eu bod yn poeni am y posibilrwydd eu bod nhw wedi derbyn mewnblaniadau’r fron gan y cwmni Ffrengig.