Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dau wedi marw mewn damwain awyren fechan

Ionawr 18, 2012 16:05, Diweddarwyd am 18:03


Cafodd dau berson eu lladd ar ol i awyren fechan daro mynydd ger Y Trallwng ym Mhowys prynhawn ma.

Cafodd y gwasanaethau brys  eu galw i’r safle yn ardal Tre’r-Llai am 12.41pm heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub: “Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda  digwyddiad yn ymwneud ag awyren fechan sydd wedi dod i lawr ar fynydd Cefn Digoll.

“Cafodd dau griw o ddiffoddwyr o’r Trallwng ac un o Lanfair Caereinion ynghyd â cherbyd pwmp Land Rover o Lanfyllin eu hanfon i’r safle.”

Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi cysylltu gyda teuluoedd y ddau berson.

Yn ol adroddiadau yn lleol, un o’r rhai fu farw oedd Bob Jones, gwr busnes adnabyddus yn yr ardal ac un o sylfaenwyr Maes Awyr y Trallwng.

Fe fydd yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr bellach yn cynnal ymchwiliad.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.