Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Ymchwiliad i achos damwain awyren a laddodd ddau

Ionawr 19, 2012 08:21, Diweddarwyd am 08:31


Awyren fechan Llun: Maes Awyr y Canolbarth
Mae’r Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi dechrau ymchwilio i achos damwain awyren fechan a laddodd ddau o bobl ger y Trallwng ym Mhowys brynhawn ddoe.

Cafodd dau berson eu lladd ar ol i’r awyren daro mynydd Cefn Digoll yn ardal Tre’r-Llai am 12.41pm ddydd Mercher.

Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi cysylltu gyda teuluoedd y ddau berson a fu farw.

Dyw’r heddlu heb gyhoeddi enwau’r ddau fu farw ond, yn ôl adroddiadau yn lleol, un ohonyn nhw oedd Bob Jones, gŵr busnes adnabyddus yn yr ardal ac un o sylfaenwyr Maes Awyr y Canolbarth ger y Trallwng. Yn ôl gwefan y maes awyr, roedd  yn beilot profiadol.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.