Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cadarnhau Coleman yn rheolwr Cymru

Ionawr 19, 2012 11:56, Diweddarwyd am 12:53


Chris Coleman

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau mai Chris Coleman yw rheolwr newydd tîm cenedlaethol.

Daeth y newyddion mewn cynhadledd arbennig a drefnwyd y prynhawn yma yng Ngwesty Dewi Sant Caerdydd.

Wrth drafod y penodiad y prynhawn yma, dywedodd Chris Coleman fod y profiad yn un “chwerw-felys” oherwydd amgylchiadau marwolaeth Gary Speed, ac mai dyna’r “cynhadledd i’r wasg anoddaf i mi ei wneud erioed.”

Mae’r rheolwr newydd, oedd yn ffrind i Gary Speed ers 30 mlynedd, wedi bod yn ffefryn amlwg i gael ei benodi ers iddo adael ei swydd yn rheoli tîm Larissa yng Ngwlad Groeg yr wythnos diwethaf.

Dilyn Gary…

Wrth dalu teyrnged i’r cyn reolwr, Gary Speed, a fu farw ddiwedd Tachwedd 2011, dywedodd Chris Coleman ei fod yn “ddyn arbennig”.

“Gallwch chi ddim disodli rhywun fel ’na, a ’dwi ddim yn golygu mewn pêl-droed, dwi’n golygu mewn bywyd yn gyffredinol,” meddai.

Dywedodd hefyd ei fod eisiau siarad â theulu Gary Speed am y penodiad, ond nad yw’n gwybod eto beth i ddweud wrthyn nhw.

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford, fod y gymdeithas wedi “ymgynghori” â theulu Gary Speed a’u bod yn gwybod am benodiad Chris Coleman.

Ond heddiw, dywedodd y rheolwr newydd nad oedd ganddo ddewis ond derbyn y cynnig i arwain tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan ddaeth y cyfle.

“Pan fod eich gwlad chi’n gofyn i chi gymryd yr awenau, mae e’n alwad na allwch chi ei wrthod,” meddai.

Dywedodd y rheolwr newydd ei fod yn gobeithio parhau gyda’r gwaith da yr oedd Gary Speed wedi ei wneud gyda’r tîm cenedlaethol.

Roedd Ryan Giggs, John Hartson ac Ian Rush ymysg yr enwau eraill oedd yn cael eu crybwyll i lenwi’r swydd.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Eirion Rhys , Ionawr 19, 2012 12:37 pm

Pob lwc iddo ond dw i’n rhagweld problemau. Mae ei yrfa rheoli wedi bod yn gymysg hyd yn hyn. Yn ogystal, mae’n debyg ei fod wedi cytuno cadw tim cynorthwyol y diweddar Gary Speed gan fod cefongaeth y chwaraewyr y tu ol iddyn nhw ond mae Raymond Verheyen wedi datgan diddordeb mewn rheoli’r tim ei hunan. Mae Coleman yn adnabyddus am fod yn gymeriad cryf, annibynnol ei feddwl ei hunan a rywbryd, mae rhywun yn synhwyro yn bydd gwrthdaro rhwng y ddau.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.