
Owain Williams
Mae Arweinydd plaid Llais Gwynedd wedi galw am dorri swyddi o fewn Cyngor Gwynedd heddiw, yn hytrach nag arbed arian drwy gwtogi ar wasanaethau cyhoeddus craidd y sir.
Yn ôl y Cynghorydd Owain William mae lle i “chwynnu” ar y nifer o bobol sy’n gweithio yn reolwyr ar adrannau’r cyngor.
“Mae 600 o middle-management i gael yng Nghyngor Gwynedd,” meddai Owain Williams, “fyddai hynny byth yn digwydd yn y sector preifat.”
Ond mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi taro’n ôl trwy ddweud fod Llais Gwynedd yn “gwbwl anghyfrifol” i fynnu toriadau estynedig i weithlu’r Cyngor.
“Lle ar wyneb y ddaear mae’r bobol yma’n mynd i gael gwaith a chynhaliaeth wedyn?” meddai Dyfed Edwards.
Yn ôl y Cynghorydd Owain Williams mae Adran Bolisi Cyngor Gwynedd, sydd, meddai, yn cyflogi 70 aelod o staff ac yn gwario £3miliwn y flwyddyn, yn arbennig o wastraffus.
“Maen nhw’n gwario arian ar gynhyrchu papur wast,” meddai Owain Williams, cyn cymharu maint Adran Bolisi Cyngor Gwynedd gyda maint Adran Bolisi Cyngor Dinas Lerpwl, sy’n cyflogi 20 o staff.
Ond mae Arweinydd Cyngor Gwynedd yn cwestiynu ffigyrau Owain Williams.
“Dydi hi ddim mor syml â hynny,” meddai Dyfed Edwards. “Mae staff polisi yn gysylltiedig â meysydd penodol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Golwg 360 y prynhawn yma nad oedd ffigwr Owain Williams am nifer staff yr adran bolisi yn gywir.
“O ran niferoedd staff yr adran, 48 ac nid 70, yw’r ffigwr cywir ar gyfer y nifer o swyddi parhaol a ariannir allan o gyllideb refeniw’r Cyngor.
“Yn ychwanegol mae’r adran yn cyflogi 12 mewn swyddi dros dro, 4 arall sydd yn cael eu hariannu gan grant ac 11 mewn uned sydd yn cyllido ei hun.
“O ran maint cymharol adnoddau ‘polisi’, mae’n anodd cymharu gyda chynghorau eraill. Yn y mwyafrif o gynghorau, mae swyddogion ‘polisi’ yn cael eu lleoli mewn adrannau gwasanaeth ac felly mae’n anodd adnabod y gwir gost. Yng Nghyngor Gwynedd, mae’r adnodd hynny wedi ei ganoli er mwyn creu arbedion a lleihau dyblygu.”
Mae’r Cyngor hefyd wedi amau ffigyrau Owain Williams ar nifer y rheolwyr-canol, ac yn dweud wrth Golwg 360 mai dim ond 280 o’u staff sydd yn gwneud gwaith rheolwyr-canol neu uwch-reolwyr.
Ond mae’r Cynghorydd Llais Gwynedd yn dweud bod angen i gwmni annibynnol ddod i mewn i edrych ar lle y dylid torri gwariant o fewn y Cyngor, gan fod “pawb yn gwylio cefnau eu hunain yno” ar hyn o bryd.
“Mae gwneud arbedion yn angenrheidiol i Gyngor Gwynedd fel i bob Cyngor,” meddai, “ond mae’n rhaid achub y gwasanaethau rheng flaen, fel help yn y cartref ac athrawon.
“Yng ngenau’r sach mae cynilo,” meddai cyn ychwanegu bod gormod o “jobs for the boys” yng Nghyngor Gwynedd ar hyn o bryd, a bod angen torri’n ôl ar rheiny, cyn torri’n ôl ar wasanaethau rheng flaen.
Yn ôl Dyfed Edwards mae’r cynghorwyr eisoes yn derbyn argymhellion annibynnol gan bobol sy’ ddim yn gweithio’n uniongyrchol i’r cyngor.
“Rydan ni yn pwyso a mesur, ac yn cael cwmnïau allanol i edrych ar newidiadau posib weithiau, ac mae’r aelodau yn cymryd yr adroddiadau hynny i ystyriaeth wedyn – adroddiadau sy’n cynnwys edrych ar nifer y gweithlu.
“Ond mae’r broses o benderfynu yn cynnwys holl aelodau’r Cyngor, 75 ohonyn nhw, ac mae aelodau Llais Gwynedd ymhlith rheiny.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd y byddai toriadau pellach yn cael eu gwneud yn ystod y misoedd nesaf, er mwyn gwireddu cynllun toriadau pedair blynedd y Cyngor, gwerth £40 miliwn, ac y byddai maint y gweithlu yn cael ei ystyried fel rhan o hynny, fel sydd eisoes wedi bod yn digwydd, meddai.
“Prif gostau unrhyw Gyngor yw’r gweithlu, ac mae’n debyg iawn y bydd lleihad,” meddai.
“Ond mae agwedd Llais Gwynedd yn gwbl anghyfrifol.”
Catrin Haf Jones
Martin , Ionawr 20, 2012 12:30 pm
§