Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Marwolaeth Denzil Pobol y Cwm – ‘Anticlimax’?

Ionawr 20, 2012 12:37, Diweddarwyd am 12:43


Gwyn Elfyn oedd yn chwarae rhan Denzil
Trawiad ar y galon laddodd un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Pobol y Cwm neithiwr.

Roedd ei ymadawaid wedi bod yn destun cryn heip, gyda hysbysebion yn Gymraeg ar S4C ac yn saesneg ar y BBC.

Mae Gwyn Elfyn wedi bod yn chwarae rhan Denzil Rees ers bron i 28 mlynedd. Cafodd wybod chwe mis yn ôl ei fod yn gadael Pobol y Cwm. Ers hynny, mae ymadawiad Denzil wedi bod yn bwnc llosg ar wefan Twitter ac yn y cyfryngau eraill wrth i wylwyr ddyfalu beth fyddai ei ymadawiad ‘dramatig.’

Roedd gwefan Caban S4C wedi gweld sawl awgrym ar Twitter o sut y byddai Denzil yn marw gan gynnwys -

 -Denzil yn cael dart yn ei lygad gan Mal a Gwynfor

 -Cael ei saethu gan Taffia y Cwm (Garry Monk) tra mewn open top 4x 4

 - Cal ei grysho gan felin wynt sydd yn disgyn oddi ar un o’r loriau mowr ar y ffordd i Benrhewl – Cadno yn dweud ‘told you so’ a boddi mewn lorri gaca.’

Ond trawiad ar y galon laddodd Denzil yny diwedd, wrth iddo fynd i nol llaeth a chacen. Nid y digwyddiad ‘dramatig’ yr oedd rhai yn ei ddisgwyl.

Cafodd ei gyhoeddi ar wefan Caban hediw ‘fod Denzil Rees, mewn golygfa ddirdynnol a bortreadir gan Gwyn Elfyn, yn cwympo’n farw ym mreichiau ei ferch Sioned yn ystod ffrae ddramatig ar y stryd.’

Siarad…

Cafwyd ymateb i’r farwolaeth ar raglen Post Cyntaf  Radio Cymru fore heddiw ac roedd Taro’r Post yn trafod ei ymadawiad. Hefyd, fe fydd Gwyn Elfyn yn ymddangos ym mhennod cyntaf rhaglen Jonathan ar y soffa coch, gyda’r cyn-chwaraeawr rygbi Gerald Davies.

Mae degau o ymatebion wedi’u gadael ar wefan Twitter, rhai yn dymuno ‘hedd i’w lwch’ ac eraill yn trafod   #DiweddDenz a #DiweddDenzil. Dyma ddetholiad:

 “Yn ddi-densiwn daeth #diwedddenzil

“Ok so nes I wylio pobl y cwm (yn wahanol ir arfer) coz o nhwn addo big event – anticlimax. #diwedddenz” –

“Ar ol hynna i gyd, marw’n mynd i nol peint o laeth…#diweddDenz

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd , Ionawr 20, 2012 2:33 pm

Mae un peth yn anghywir yn yr adorddodiad: fuodd ‘na ddim trafodaeth ar Post Cyntaf. Glywes i Garry Owen yn ymddiheuro cyn 8.30 nad oedden nhw’n gallu cynnal y drafodaeth oherwydd nam technegol.

§| Nodi camddefnydd

Gerwyn Preis , Ionawr 20, 2012 3:33 pm

Mam fach!!! Gallai ddim a credu hyn…….!! Cymaint o ffys ….trafodaethau ar Taro’r Post, Post Prynhawn, Rhaglen gyfan ar Beti……nef a daear…ACTOR yn gadael cyfres oedd hwn…..os gellir ei alw’n ‘actio’…….

§| Nodi camddefnydd

Llinos , Ionawr 20, 2012 5:22 pm

Llaeth a chacen?

Oes rhywun arall yn meddwl fod neges gudd yma?
Tase fe ar ei ffordd i hôl afal a photel o ddŵr, fydde hyn heb ddigwydd! ;-)

Cofiwch fwyta’n iach!

§| Nodi camddefnydd

Llew , Ionawr 20, 2012 6:15 pm

28 mlynedd? Hyna’n ormod siwr iawn…. Todd o’m di cael digon?…

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Ionawr 21, 2012 6:03 am

Dwi ddim wedi gwylio Pobl y Cwm ers degawd – cwestiwn oedd e mor ‘stiff’ yn farw ac oedd e’n fyw ?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.