
Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg, sydd â gofal dros y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru, wedi prynu copi electronig o gylchgrawn Golwg heddiw.
Ar ôl cael cyfarwyddyd bod app Golwg ar gael yn safle itunes, aeth Leighton Andrews ati I lawrlwytho copi a datgelu hynny ar ei gyfrif twitter.
Mae Golwg yn torri tir newydd eleni gyda’r App cynta’ erioed ar gyfer cylchgrawn Cymraeg.
Bellach mae’n bosib prynu fersiwn arbennig o’r cylchgrawn ar gyfer dyfeisiadau Apple – yr iPad yr iPhone a’r iPod.
Mae’r cylchgrawn cyfan ar gael ar sgrîn o’r funud y mae’n cael ei gyhoeddi – ym mhob man ar draws y byd.
• Mae modd symud yn rhwydd o dudalen i dudalen ac ar draws tudalennau gan chwyddo neu leihau’r ysgrifen trwy gyffyrddiad bys.
• Mae apGolwg hefyd yn rhoi cyfle i gynnwys fideos a ffeiliau sain yn rhan o’r cylchgrawn electronig ac fe fydd y rheiny ar gael heb unrhyw gost ychwanegol.
• Mae dwy ffordd o brynu’r cylchgrawn – naill ai trwy danysgrifiad blwyddyn neu chwe mis, neu fesul rhifyn am ddim ond £1.49 y tro.
Mae’r App wedi cael ei ddatblygu gan gwmni Yudu, gyda chefnogaeth gan Gyngor Llyfrau Cymru ac fe fydd yn gam newydd pwysig ymlaen i’r wasg Gymraeg.
“Mae Golwg wedi ceisio torri tir newydd yn gyson ac, wrth i fwy a mwy o bobol droi at ddarllen ar ddyfeisiadau symudol, mae’n bwysig fod y wasg brint Gymraeg yn ennill ei lle ar y cyfryngau newydd,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, adeg lansio’r cyfrwng newydd.
Iwan Rhys , Ionawr 20, 2012 2:59 pm
§| Nodi camddefnydd