
Adam Price
Mae cyn-AS dylanwadol Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw ar bobol i ymuno â’r blaid er mwyn bwrw pleidlais yn yr etholiad i ddewis arweinydd newydd.
Dywedodd y dylai “pobl flaengar”, “gwladgarwyr” a “rhyng-genedlaetholwyr Cymreig” ymuno er mwyn cefnogi ymgeisyddiaeth Leanne Wood.
Mae gan bobl hyd at Ionawr 26ain i ymuno â’r Blaid er mwyn cael bwrw pleidlais i ddewis yr arweinydd.
Dywedodd Adam Price fod y Blaid Lafur wedi “camu i’r dde” wrth “gytuno” â Llywodraeth San Steffan ar fater diwygio pensiynau’r sector cyhoeddus ac agor y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’r farchnad breifat.
Mae wedi ysgrifennu llythyr agored yn galw ar bobl i ymuno â’r “unig ddewis gwleidyddol amgen”, sef Plaid Cymru.
“Yn fy marn i, ni fu erioed amser pwysicach i bobl flaengar, gwladgarwyr a rhyng-genedlaetholwyr Cymreig ymuno â’r blaid,” meddai.
“Rydym yn byw mewn cyfnod pan fo hen strwythurau, hen syniadau a hen ffyrdd o feddwl mewn argyfwng ym mhobman. Mae’r byd, a Chymru, yn deisyfu’r newydd.
“Mae systemau gwleidyddol ac economaidd ledled y byd wedi methu â chreu’r ffyniant a’r cyfiawnder a addawyd ac mae pobl yn dyheu am ddewisiadau amgen.
“Ond ble mae’r dewis amgen hwnnw? Fan hyn, yn y Deyrnas Unedig sy’n fwy rhanedig nag erioed o’r blaen – yr hynod freintiedig a’r rhai sydd dan bwysau eithriadol – mae’r Blaid Lafur a aned ym merw’r frwydr bellach yn credu mai’r ateb i’r argyfwng yw torri cyflogau’r bobl sydd ar gyflogau isel – fel y gwnaeth perchnogion y pyllau glo ym 1926.
“Yng Nghymru, diolch i’r drefn, mae gennym ddewis amgen, pe dewiswn weithredu. Mae gennym ddewis amgen yn y Blaid, pe dewiswn weithredu. Ac mae gan Blaid Cymru ddewis amgen yn Leanne, pe dewiswn weithredu.”
Adam Jones , Ionawr 21, 2012 4:07 pm
§