
Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi datgan ei bryder ynglyn â strategaeth ariannol Llywodraeth San Steffan yn dilyn cyhoeddi ffigurau newydd am yr economi.
Heddiw, roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrif bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y DU wedi gostwng 0.2% yn chwarter olaf 2011 gan gynyddu’r pryderon bod dirwasgiad arall ar y gorwel.
Roedd economegwyr yn y Ddinas wedi disgwyl gostyngiad o 0.1%.
Yn Nhy’r Cyffredin prynhawn ma dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod yn siomedig gyda’r ffigurau ond mae’n mynnu y bydd y Llywodraeth yn parhau gyda’i mesurau arbedion i fynd i’r afael â dyledion y wlad.
Ond mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod y ffigurau’n dangos nad ydy mesurau Llywodraeth San Steffan yn gweithio.
Dywedodd bod y toriadau yng Nghymru “yn rhy llym, ac yn digwydd y rhy gyflym ac rydyn ni nawr yn wynebu dirwasgiad arall.”
“Er gwaetha hyn, yma yng Nghymru, mae ein ffocws ni ar helpu’r sector preifat i ehangu a chreu swyddi,” meddai.
Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dyma’r tro cyntaf i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU ostwng ers chwarter olaf 2010.
Ddoe, roedd y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi darogan y byddai economi’r DU yn tyfu dim ond 0.6% eleni.
Hirben , Ionawr 25, 2012 7:49 pm
§