Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Arweinydd Plaid: Enwebiadau’n cau

Ionawr 26, 2012 08:39


Y pedwar ymgeisydd
Fe fydd yr enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru yn cau am hanner nos heno.

Y pedwar sydd yn y ras yw Aelod Canol De Cymru Leanne Wood; Aelod Ceredigion, Elin Jones; Aelod Dwyfor Meirionnydd, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas;  ac Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas.

    Ddoe, roedd Plaid Cymru wedi cyflwyno neges munud olaf yn annog pobl i ymaelodi cyn hanner nos heno i gael pleidleisio am arweinydd newydd i Blaid Cymru i olynu Ieuan Wyn Jones.

    Mae nhw wedi anfon negeseuon allan drwy neges destun, e-bost a drwy Facebook a Twitter i ddegau o filoedd o gefnogwyr yn eu gwahodd i ymuno a’r Blaid erbyn hanner nos.

    Mae’r Blaid eisoes wedi gweld “cynnydd sylweddol yn ei aelodaeth dros y tri mis diwethaf,” medden nhw.

    Fe gyhoeddodd Ieuan Wyn Jones ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd fel arweinydd y blaid ym mis Mai yn dilyn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2011.

    Bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar 15 Fawrth  yng Nghaerdydd.

    Ychwanegu Sylw

    Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


    Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


    Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


    Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


    Ychwanegwch y sylw cyntaf.

    Dynodir blychau angenrheidiol â *.

    Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.