Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Yr iaith ‘yn dal Plaid yn ôl’ medd Ron Davies

Ionawr 27, 2012 10:36, Diweddarwyd am 10:38


Ron Davies
Yr iaith Gymraeg yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n atal Plaid Cymru rhag ennill etholiadau yng Nghymru, yn ôl pensaer datganoli ei hun, Ron Davies.

 Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru yn dweud fod yr iaith wedi rhoi sylfaen gadarn i’r Blaid yn ystod ei dyddiau cynnar, ond mai hindrans, nid help, yw’r iaith bellach.

“Mae’r mater ieithyddol wedi bod o fantais fawr i Blaid Cymru dros y blynyddoedd wrth sefydlu ei hun fel pencampwyr y Gymraeg,” meddai Ron Davies, y cyn-AS Llafur sy’ bellach yn Gynghorydd Plaid Cymru

 “Ond yr anfantais yw ei fod wedi dieithrio’r Cymry di-Gymraeg.”

Delwedd y Blaid yn y Cymoedd - iaith iaith iaith

Dywedodd Ron Davies wrth golwg360 heddiw mai’r ddelwedd sydd gan bobol o Blaid Cymru yn y Cymoedd yw bod y Blaid yn canolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo’r iaith.

“Mae’n rhaid delio gyda hyn,” meddai, “dyw pobol ddim yn gweld agenda ehangach y Blaid.”

Ychwanegodd fod “amheuaeth wleidyddol” gan bobol y Cymoedd ynglŷn â gwir bwrpas Plaid Cymru.

“Mae agweddau’n dechrau newid, ond mae’r rhaniad yna’n dal i fodoli, a pobol yn dal i gredu mai’r iaith yw diddordeb arbennig y Blaid.”

Yn ôl Ron Davies, a fu’n allweddol yn stori sefydlu’r Cynulliad i Gymru dan Lywodraeth Lafur y 1990au, mae’n rhaid i Blaid Cymru dargedu seddi’r Blaid Lafur os ydyn nhw am dorri trwodd yng nghymoedd diwydiannol y de.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i strategaeth o gymryd seddau oddi wrth Llafur yn eu cadarnleoedd,” meddai.

“Mae pawb sy’n edrych ar ddaearyddiaeth wleidyddol Cymru yn gwybod bod yn rhaid ennill seddi oddi wrth Llafur yn y Cymoedd os yw’r blaid am symud ymlaen.”

Wrth edrych tuag at ras arweinyddiaeth Plaid Cymru, dywedodd Ron Davies mai’r peth pwysicaf i’r arweinydd nesaf fyddai cael “gweledigaeth glir, a syniad clir ar sut i wireddu’r weledigaeth honno”.

 Er bod sawl un wedi dweud mai Leanne Wood fyddai’r arweinydd gorau i helpu’r Blaid i goncro’r Cymoedd,  doedd Ron Davies ddim yn fodlon datgelu pwy fyddai’n cael ei bleidlais ef.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhys Llwyd , Ionawr 27, 2012 10:57 am

Mae’n debyg fod canfyddiad Ron Davies yn gywir ond nid gan genedlaetholwyr mae’r broblem fan hyn. Y di-Gymraeg sydd a chip ar eu hysgwydd am y pwnc, ac mae’n debyg fod y Blaid Lafur wedi porthi y chip yna dros y blynyddoedd er mwyn cadw eu hegemoni.

Dyma’r prif wahaniaeth rhwng Cymru a’r Alban a rhwng yr SNP a Phlaid Cymru felly dim ond hyn a hyn o wersi y gall Cymru ddysgu o’r Alban amwn i.

Y broblem hefyd yw mai gweledigaeth hir dymor llawer o gefnogwyr craidd Plaid Cymru, fel fi, yw “Cymru Rydd Gymraeg”. Felly anwiredd fyddai hi i ddweud ar lwyfan etholiadol fod y Gymraeg ddim yn bwysig i genedlaetholwyr bellach.

Y gyfrinach i Blaid Cymru yw nid newid ei gweledigaeth i fod at ddant yr etholwyr ond yn hytrach darbwyllo yr etholwyr o brynnu mewn i’w gweledigaeth. Ac i mi, beth bynnag am amhoblogrwydd y safbwynt ar hyn o bryd mewn rhannau o Gymru, mae rhaid i’r weledigaeth honno gael y Gymraeg yn rhan flaenllaw ohoni.

§

Nic Dafis , Ionawr 27, 2012 10:59 am

Nid “agwedd y Cymry di-Gymraeg” yw’r broblem, ond agwedd y Cymry gwrth-Gymraeg. Mae lot llai ohonyn nhw nag mae cynnwys tudalen llythyrau’r Western Mail yn awgrymu, ac maent yn brysur marw fel rhywogaeth, diolch byth.

§

Jason Morgan , Ionawr 27, 2012 11:08 am

Un o’r rhesymau pan adewish i’r Blaid flynyddoedd nôl oedd bod yr iaith yn cael ei thrin fel rhyw fath o anfantais a bod y Blaid i bob pwrpas ddim yn rhoi’r gefnogaeth y mae’n ei haeddu iddi. Dwi newydd ailymuno a byddai’n siom o’r mwyaf petai hynny dal yn wir. O ran yr iaith, ni ddylai Plaid Cymru gyfaddawdu fymryn: os mae hi, mi ddyweda i ffarwél iddi drachen.

§

Dewi , Ionawr 27, 2012 11:22 am

Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd ddim yn wrth-Gymraeg.

§

Ifor Hughes , Ionawr 27, 2012 11:22 am

Ma gan Ron Davies gymaint i gyfrannu i Gymru – unwaith eto me ei ddehongliad yn llygad ei le a dyliad gwrando arno fe er budd y Genedl.

§

Mali , Ionawr 27, 2012 11:53 am

Ie, dwi’n gweld pwynt Ron, er fy mod i’n hynod o falch o gwaith ardderchog mae’r Blaid wedi wneud i’r iaith dros y blynyddoedd er enghraifft ymladd dros cyfiawnder a addsyg Gymraeg, a dylsen fod yn falch iawn o hynny.

Myth yw fod y Blaid ond i’r Cymry Cymraeg, mae dros hanner aelodau y Blaid yn ddi-Gymraeg felly gwir yw mae’r Blaid i bawb. Mae ein darpar cyngorhydd lleol ar gyfer mis Mai yn gwr o di-Gymraeg o Lancashire sy wedi symud yma ag yn frwd dros Cymru a rhyddid i Gymru.

§

jones2 , Ionawr 27, 2012 12:03 pm

Mae sawl un arall – fi yn eu plith – yn credu nad Leanne yw’r ‘un orau i goncro’r Cymoedd’. Dwi’n meddwl fod ganddon nhi hawl i ddisgwyl newyddiaduraeth wrthrychol gan Golwg360.

§| Nodi camddefnydd

Garmon , Ionawr 27, 2012 12:17 pm

Ymddengys bod yr iaith gymraeg yn rhwystr i ysgrifennu’r erthygl hon hefyd.

“Hindrans”???

§| Nodi camddefnydd

Dw a didi, didi RON ....! , Ionawr 27, 2012 12:43 pm

Mae Ron yn iawn ac ar y Blaid mae’r bai am hynny.
Newyddion o’r Blaid yr wythnos ‘ma, Hywel Williams yn amddiffyn hawl carcharor i siarad Cymraeg a Jill Evans yn cyhoeddi ei bod yn bosib gwneud rhywbeth arall yn Gymraeg yn Ewrop. Beth mae hynny’n gwneud ond cryfhau’r syniad mai hawliau’r Cymry Cymraeg sy’n cael y flaenoriaeth.
Am y flwyddyn nesa, beth amdani, – llai am iaith a mwy am waith.

§

Iwan Rhys , Ionawr 27, 2012 12:57 pm

Dwi’n cytuno â Ron Davies i raddau helaeth, cyhyd â’i fod e ddim yn awgrymu y dylai’r Blaid gyfawddawdu ar yr iaith er mwyn goresgyn y broblem. Wedi’r cyfan, un elfen greiddiol yw’r ffyniant yr iaith i’r Blaid, ac maes sawl elfen greiddiol arall. Mater o gyfleu’r neges yn gywir i’r etholwyr yw hi, a’u darbwyllo nad plaid i Gymry Cymraeg yn unig yw Plaid Cymru yw hyn. Mae sut mae mynd ati i wneud hynny yn beth arall – mae’n ymddangos i mi fod y Blaid wedi trio sawl tacteg eisoes, gydag ymgyrch hysbysebu ac ati ar yr union fater. Pan fo trwch y boblogaeth yn dibynnu ar y BBC a phapurau Llundain am eu newyddion, dwi’n dychmygu bod cynghorwyr a chanfaswyr Llafur yn gallu cael getawê gyda dweud faint fynant o gelwyddau ar stepen y drws (they’ll force people to speak Welsh, a vote for Plaid is a vote for the Tories, ac ati).

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 27, 2012 1:21 pm

Tybed beth oedd Ron Davies yn dweud am Blaid Cymru, a’u hagwedd at y Gymraeg , pan oedd yn AS blaid Lafur am gyhyd ?

§| Nodi camddefnydd

Siôn Eurfyl Jones , Ionawr 27, 2012 1:40 pm

Dewi – mae ddim yn wir fod y pleidiau eraill yn wrth gymraeg bellach. I ddweud y gwir, yn yr etholiad diwethaf, ‘roedd uchelgais y Toriaidd am yr iaith yn uwch nag un Plaid Cymru, felly ‘rwy’n cytuneo a Rond Davies fan hyn. Mae modd nawr, i’r Blaid ehangu ei ffocws – heb golli golwg ar dynged yr iaith – ond drwy ganolbwyntio ar bethau sydd yn llawer fwy pwysig a difrifol i fywyd bob-dydd mwyafrif ein poblogaeth. Rhaid i ni ail greu y Blaid fel plaid i holl bobol Cymru, a Leanne, yn fy nhyb i, yw’r ymgeisydd gorau o bell i wneud hynny.

§| Nodi camddefnydd

Neilyn , Ionawr 27, 2012 1:42 pm

Yn bendant, mae’n amser i sicrhau fod apel Plaid Cymru yn ehangu i’r cymunedau rhwng Abertawe a Chasnewydd, ond mae’n rhaid gwahaniaethu’n ofalus rhwng delwedd Plaid Cymru ar yr un llaw a phwysigrwydd craidd yr iaith gymraeg i Gymru a’r Cymry, sydd yn fater gwahanol. Mae’n rhaid gwrthod unrhyw syniad fod yr iaith yn dal Cymru’n ol.

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Ionawr 27, 2012 2:07 pm

Neilyn, rwyt ti wedi llwyddo i ddweud yn union yr hyn ro’n i’n trio ei ddweud – cytuno â sylwadau Ron Davies, ond “rhaid gwahaniaethu’n ofalus rhwng delwedd Plaid Cymru ar yr un llaw a phwysigrwydd craidd yr iaith gymraeg i Gymru” ar y llall.

§| Nodi camddefnydd

Dewi , Ionawr 27, 2012 2:25 pm

@Sion Eurfyl – gimic oedd ‘addewid’ y Torïaid o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn yr etholiad diwethaf.

§| Nodi camddefnydd

Meirion , Ionawr 27, 2012 2:43 pm

Ydi hyn yn wir ? Mae ‘na dwf aruthrol yn addysg Gymraeg yn y Cymoedd.
Os ydi’n wir, mae’r ffaith fod pobl yn gwrthwynebu hawliau iaith i ni’r Cymry Cymraeg yn anghywir.
Mater o addysgu pobl yw hyn. Nid cefnu o’r agenda iaith. Mae angen i’r Blaid fod fwy agored a hyderus pam yn drafod y mater, ynghyd ac annibyniaeth ac ynni niwclear. Neu byddan nhw ddim yn ennill ymddiriedaeth pobl. Dyna be sydd yn rhwystro nhw dorri trwodd. Mae rhyw fel Leanne Wood tynu’r Blaid i’r cyfeiriad cywir.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Ionawr 27, 2012 2:59 pm

Dwi o’r farn bod yr iaith yn ‘toxic’ i’r blaid yn etholiadau seneddol Ceredigion hefyd – gwahaniaethu Nic rhwng ‘di-Gymraeg’ a ‘gwrth-Gymraeg’ yn berthnasol iawn yma hefyd. Er tegwch i’r blaid, mae’n gyfyng gyngor a hanner: mynd ati ‘all guns blazing’ fel mae Jason yn awgrymu, gan fynegi hyder ac aeddfedrwydd yn hynny o beth, ynteu fod yn bragmataidd er mwyn peidio â chythruddo darpar bleidleiswyr?

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 27, 2012 5:37 pm

Yn ol beth a ddeallaf , yng Ngheredigion mae’r gwahaniaeth iaith yn amlycaf o ran ‘Ni a Nhw ‘ pleidiol. Bu cyfnod yn Sir Fon lle roedd di-Gymraeg Caergybi, hyd yn oed, yn pleidleisio i IWJ , ond gyda dyfodiad Albert Owen ( Cymro Cymraeg difater, fel y rhan fwyaf o’i genhedlaeth yn y dref ) , aeth y bleidlais yno’n ol i’w hymgeisydd ‘Nhw’ . Petai’r Blaid Lafur yn Arfon yn gallu cynhyrchu ymgeisydd ‘Bangor ai ‘ , ni fuasai Hywel Williams yn ei chael hi’n hawdd cadw’r sedd .

§| Nodi camddefnydd

mwj , Ionawr 27, 2012 7:42 pm

Se’n well gen i bod heb bwer na’n bod yn son am yr iaith yn ‘hindrans’. Os all y blaid lwyddo i gyfleu eu polisiau yn glir i’r etholwyr fe ddaw’r gefnogaeth. Ma angen dangos mai AS/ACau y Blaid sy’n gweithio galetaf dros bobl Cymru. Gwau ni os wnawn roi’r iaith yn niwsans i ni.

§

Hirben , Ionawr 27, 2012 9:12 pm

Os nad yw’r iaith yn bwysif i Blaid Cymru, felly beth yw apel y Blaid i Gymry Gymraeg? A oes polisiau pendant gyda nhw sydd yn amlwg i bawb? Mae angen i blaid gael apel sydd yn amlwg i ddarpar bleidleiswyr heb orfod darllen y man ysgrifen at y maniffesto. Ni wn i er enghraifft beth mae Plaid Cymru yn sefyll amdano, ac oni bai fy mod i’n ei hystyried yn blaid sydd yn sefyll dros yr iaith, ni wn pam ddylwn bleidleisio drosti.

§| Nodi camddefnydd

Jones , Ionawr 27, 2012 10:39 pm

Dwi’m isio deud o, mae’n rwbath afiach. Ond ma Ron yn llygaid ei le. Petai yr iaith yn diflannu, dwi’n sicr bysa Plaid mor boblogaidd ar SNP.

Ond sna’m pwynt meddwl fel hynny. Mae’r iaith yma, mae Plaid Cymru yn Blaid sydd eisiau amddiffyn y Blaid a dylsa ni ddim newid hyn. Yr unig beth fyswn i yn deud ydy ein bod, mewn Llywodraeth wedi rhoi ‘equal status’ nid yn unig ir iaith gymraeg, ond hefyd saesneg.

Ond yn sicr, dwi yn meddwl dylsa Plaid cael 2 ‘attack mode’ cyn etholiad- un set o taflenni ir gorllewin ac un ir dwyrain gyda polisiau sydd fwy pwysig ir ardaloedd yma.

Un pwyn bychan sydd yn llechio dadl Ron allan yw sut nath y Blaid mor dda yn 1999, pan oedd y iaith yn pwnc llawer mwy ddadleuol!?????

§| Nodi camddefnydd

Mali , Ionawr 27, 2012 11:08 pm

@Jones uchod, dwi’n cytuno a llawer beth ti dweud, ond os fuasa na ddim iaith fuasa na ddim Cymru heb son am Blaid Cymru, oherwydd mae hanes a diwylliant Cymru a’r Alban yn wahanol, mae yna mwy o teimlad o genedl yn yr Alban na ni yma yn Nghymru yn anffodus (dwi wedi bod astudio yna am dwy flynedd roedd hynny’n dod drosodd). Os fasa’r iaith wedi marw allan yn 16fed ganrif fel oedd dymuniad Coron Lloegr dwi’m yn credu fuasa Cymru nawr yn bodoli, fuaswn mwy na thebyg yn rhan o Loegr fel Cernyw. Mae’r iaith Gymraeg yn sicr yn gwenud ni wahanol a unigryw i unrhyw genedl arall yn y byd, a imi, mae hynny rhywbeth i fod yn falch amdano.

§| Nodi camddefnydd

Rhian , Ionawr 28, 2012 8:01 pm

‘Dwi’n cytuno yn llwyr ‘da sylwadau Ron. Y broblem mwyaf ‘dwi’n gweld yw fod yna rhyw deimlad o “us and them” pan ma’r Cymry Cymraeg yn cyfeirio at siaradwyr di-Gymraeg. Mae’n sefyllfa anffodus ond fel rhywun sy’n byw yn y cymoedd alla’i dweud bod hi’n wir. Ma lot o bobl yn gweld bod Plaid Cymru yn trio cael gwared o’r meddylfryd yma ond nes fydd yna arweinydd cryf gall denu sylw a pharch pobl y cymoedd a thu hwnt sai’n gweld lot yn newid. A ‘dwi ddim yn gweld fydd Leanne Wood neu un o’r ymgeiswyr eraill yn llwyddo i wneud hynny.

§

Blaidd , Ionawr 30, 2012 11:43 am

Mae pobl y cymoedd yn teimlo’n Gymreig oherwydd y ffaith bod dylanwad yr iaith Gymraeg yn gryf ar eu Saesneg (mi fydd Sais yn fwy nawddoglyd tuag at rywun gydag acen de Cymru gref na fyddent nhw tuag at Gog dosbarth canol) . Mae’r iaith yn rhywbeth sy’n cysylltu ni i ein hen hanes ac yn uno’r genedl.

§| Nodi camddefnydd

Lewys Aron , Ionawr 31, 2012 12:59 pm

Beth ar ddear mae’r boi yma mlaen am? yr unig rheswm mae llawer wedi pleidleisio am y plaid yw achos y fod nhw’n cefnogol i’r iaith Gymraeg. Petai’r plaid yn gollwg yr iaith o eu polosiau ni fyddaf yn pleidleisio dros nhw

§| Nodi camddefnydd

Hirben , Ionawr 31, 2012 9:00 pm

Cytuno gyda Lewys Aron. Mae nifer fawr o gefnogwyr Plaid Cymru yn pleidleisio iddi OHERWYDD yr iaith. Heb y cysylltiad gyda’r iaith, ni fyddent yn pleidleisio iddi yn awtomatig.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.