Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Bronnau Imogen yn berffaith

Ionawr 27, 2012 12:21, Diweddarwyd am 16:50


Imogen Thomas
Yr wythnos hon mae Imogen Thomas wedi datgelu bod ei bronnau ffug yn berffaith iach.

Roedd seren Big Brother a chyn-feistres Ryan Giggs wedi bod yn poeni ei bod hi ymhlith nifer o fenywod o Gymru sydd wedi derbyn mewnblaniadau’r fron gan gwmni PIP o Ffrainc.

Ond mewn neges ar twitter mae hi wedi cadarnhau nad oes ganddi’r math llygredig o fronnau ffug o Ffrainc.

‘I’ve just found out I do not have PIP implants. So happy :-) thanks’ meddai neges ganddi ar ei chyfrif twitter.

Mewn neges bryderus gynharach ar Twitter, dywedodd ei bod yn poeni’n arw bod ei mewnblaniadau wedi dod o gwmni PIP yn Ffrainc, sydd wedi cael ei gau lawr yn ddiweddar ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod yn defnyddio silicôn nad oedd yn cyrraedd safonau meddygol.

Cafodd Imogen Thomas ei mewnblaniadau yn 2008. Fe werthodd cwmni Ffrengig PIP 40,000 o fewnblaniadau rhwng 2001 a 2010.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nia Davies , Ionawr 27, 2012 1:36 pm

Oes angen bennawd mor smutty? Mae goblygiadau iechyd ynghylch PIP yn rhoi braw i nifer o ferched, tra eich bod chi’n trio neud y stori yn rhywbeth rhywiol. Ofnadwy ac yn israddio Golwg 360. Tabloid ydach chi?

§| Nodi camddefnydd

Ben , Ionawr 27, 2012 1:57 pm

Ydy hyn yn newyddion! O’r holl bethau sydd yn digwydd yn y byd, mae hyn yn un o’r prif straeon!

§| Nodi camddefnydd

Ann Onn , Ionawr 27, 2012 2:07 pm

Sut mae’r sawl a ysgrifennodd hyn yn gwybod bod bronnau Imogen yn “berffaith”??!! :-)

§

Ann , Ionawr 27, 2012 2:17 pm

Nia – “gwneud y stori yn rhywbeth rhywiol”? dyna pam mae’r merched hyn yn cael y driniaeth yn y lle cyntaf!!

§| Nodi camddefnydd

Guto , Ionawr 27, 2012 3:01 pm

Beth am lun?

§| Nodi camddefnydd

Jason Morgan , Ionawr 27, 2012 3:41 pm

Dw i’m yn meddwl bod cyfres o sylwadau ar stori yn Golwg360 erioed wedi gwneud i mi chwerthin cymaint!

§| Nodi camddefnydd

Ceri , Ionawr 27, 2012 4:11 pm

Mae bronnau ffug yn rhywbeth ma bois rygbi yn gwishgo fel laff ar ol cwpwl o beints – wi ddim yn credu bo rhai imogen yn ffug, bach yn ‘enhanced’ os rhywbeth ond nage rhai ffug!

§

Ceri , Ionawr 27, 2012 4:20 pm

Mae ‘dannedd doti’ yn ffug – cyn mynd i’r gwely ma dyn yn eu tynnu nhw mas a’u doti ar y seidbord; wi’n siwr nag yw Imogen yn gallu tynnu ‘i bronnau hi off a’u doti nhw ar y seidbord..

§| Nodi camddefnydd

Eifion Williams , Ionawr 27, 2012 6:59 pm

Siomedig iawn fod ‘na ddim llun o’r bronnau imi gael weld drost fy hun os yw nhw berffaith neu peidio :)

§

Dafydd , Ionawr 27, 2012 7:40 pm

Mae bronae Imogen yn ‘eitha da’. ;-)

§| Nodi camddefnydd

Nia Davies , Ionawr 27, 2012 8:37 pm

“Nia – “gwneud y stori yn rhywbeth rhywiol”? dyna pam mae’r merched hyn yn cael y driniaeth yn y lle cyntaf!!”

1) Nid pob tro. Merched gydd wedi cael cancr y bron yn cael y triniaeth.

2) Dyw cael bronnau PIP ddim yn rhoi’r golau coch i Golwg 360 troi yn dabloid. Israddio merched.

§| Nodi camddefnydd

Steffan Llysdinam , Ionawr 27, 2012 9:10 pm

A beth am rhein ‘fyd?!?!?!

Pleidlais Plaid Cymru yn…
(ar ol etholiad)
Cerrig Tîm Cymru yn…
(ar ol trip oer arall i Wlad Pwyl)
Sianel Siomedig y Gymraeg yn…
(bob wythnos)
Grav Gav yn…
(Henson yn tyfu barf)

Mae’n warthus!

A ga i ddweud mai rhywbeth am y Sais yw hiwmor. Sai’ eisiau gweld ein Cymreictod yn cael ei llygru gan sens o hiwmor. Diolch yn fowr!

§| Nodi camddefnydd

Ryan G , Ionawr 28, 2012 10:41 am

Achos dathlu i ni gyd . Bum yn trafod yr union fater gyda gwraig fy mrawd yn ddiweddar.

§

Hirben , Ionawr 28, 2012 8:35 pm

Mae merched sydd wedi cael cancr y fron yn cael triniaeth dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nid ydynt hwy yn mynd at glinigau preifat i chwyddo eu bronnau. Mae’r merched y cyfeirir atynt yma, fel Imogen, wedi dewis cael y driniaeth oheryww balchedr/neu’r awydd i wneud eu hunain yn fwy rhywiol (yn eu tyb hwy)!!

§| Nodi camddefnydd

eirwen haf , Chwefror 3, 2012 11:15 pm

Gobeithio bydd y merched ffol ma’n stopio’r fath dwptra wedi hyn.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.