Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Plaid Cymru yn denu 1,500 aelod newydd

Ionawr 27, 2012 12:30, Diweddarwyd am 12:31


Rhuanedd Richards
Mae Plaid Cymru yn dweud bod eu hymgyrch i ddenu aelodau newydd er mwyn pleidleisio dros arweinydd newydd wedi bod yn lwyddiant ysgubol.

 Dywedodd llefarydd bod eu haelodaeth wedi codi 23.4% yn y pedwar mis ers iddyn nhw lansio’r ymgyrch i ddenu aelodau newydd i’r blaid – sef cynydd o tua 1,500 o aelodau.

 Pan lansiwyd yr ymgyrch yn ôl ar 17 Hydref 2011, roedd aelodaeth Plaid Cymru o gwmpas 6,300, erbyn hanner nos neithiwr roedd y nifer hwnnw wedi codi i 7,863.

Roedd y terfyn hanner nos yn cyd-fynd â’r dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr ar gyfer dewis arweinydd newydd Plaid Cymru.

 Fe fydd pob un o’r aelodau hen a newydd hyn nawr yn cael y cyfle i bleidleisio dros eu harweinydd newydd – gyda phleidlais bost fydd yn cael ei dosbarthu i aelodau wedi i’r mis o hystings ddod i ben ddiwedd Chwefror.

 Bydd gan aelodau wedyn tan Mawrth 15 i ddychwelyd eu pleidlais bost i’r Blaid.

Y dull o ethol

 Bydd arweinydd nesaf Plaid Cymru yn cael ei ethol trwy ddull y bleidlais amgen, lle bydd aelodau Plaid Cymru yn cael y cyfle i restru eu dewis yn ôl ffefrynnau – gyda’r posibilrwydd o flaenoriaethau pwy fyddan nhw eisiau ei weld fel arweinydd newydd gan roi ‘1’ wrth eu hoff ddewis, ac yna ‘2’, ‘3’ a ‘4’ wrth eu hail, trydydd a phedwerydd dewis.

Trwy ddefnyddio’r bleidlais amgen yma, os fydd dewis rhif ‘1’ yr aelod yn dod yn olaf yn y cyfri cyntaf, ac yn cael ei daflu allan o’r ras, fe fydd dewis rhif ‘2’ yn cael ei gyfrif yn y rownd ddilynol.

 Neu mae’n bosib i bobol rhoi ‘1’ wrth eu hoff ddewis a gadael y tri arall yn wag.

Dywedodd Prif Weithredwr y Blaid, Rhuanedd Richards, bod y cynnydd yn yr aelodaeth yn brawf bod dyfodol Cymru yn bwysicach nag erioed i bobol.

“Mae’n glir bod ein haelodau hen a newydd wedi eu huno gan weledigaeth ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni, gyda’n gilydd ar gyfer pobl Cymru,” meddai.

“Mae ein aelodau ar lawr gwlad yn ran annatod o Plaid Cymru. Nhw yw’r bobol sydd yn mynd i helpu i symud y Blaid ymlaen a chyfathrebu ein gweledigaeth bositif yn eu cymunedau ar draws Cymru.

“Rydym yn hynod falch o groesawu cymaint o aelodau newydd ac yn edrych ymlaen i gyd-weithio gyda hwy i helpu Cymru flodeuo a chyrraedd ei photensial dros y blynyddoedd nesaf.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Ionawr 27, 2012 12:44 pm

Yng nghyd-destun yr apathi ymddangosiadol a’r diffyg ymddiriedaeth cyffredinol mewn gwleidyddiol a phleidiau gwleidyddol, mae sicrhau cynnydd o 23.4% mewn 4 mis yn gamp aruthrol! Mae’n dangos bod pobl yn teimlo bod hwn yn gyfnod hanesyddol i’r Blaid, a bod gwir gyfle i newid pethau i’r Blaid ac i Gymru, pe dewisir yr arweinydd cywir . . .

§| Nodi camddefnydd

Iwan Rhys , Ionawr 27, 2012 12:45 pm

cywiriad – *gwleidyddion* !

§

Neilyn , Ionawr 27, 2012 1:49 pm

Newyddion calonogol iawn! Rhyw fath o “wanwyn” ar y gorwel?

§| Nodi camddefnydd

Jones , Ionawr 27, 2012 7:57 pm

Ar joc ydyd- hefo chydig bach mwy o hysbysebion dwi’n sicr bysa llawer mwy wedi ymuno.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 28, 2012 10:27 am

Parthed CymruX-adran ieuenctid Plaid Cymru. Cliciau sy’n rhy Caerdydd-centric? Gormod o yrfawyr ifanc yn crafu tin yr hen do? Llygadu sedd yn y Cynulliad mewn blynyddoedd i ddod?
Dywed y wefan swyddogol: “Cynrychiolydd Gogledd Cymru – *Gwag* ”
Wel, wel…
Nid Cymdeithas yr Iaith neu Cyfeillion y Ddaear sydd berchen y gwir pob tro. Ond rydych yn fwy tebygol o glywed pethau difyr ganddynt na’r joc CymruX yma!

§| Nodi camddefnydd

Jones , Ionawr 28, 2012 12:48 pm

Martin,
Dyma yw un o prif problemau Plaid Cymru, ac pleidiau Cymreig yn gyffredinol…
Os dachim yn “nabod” AC/AS neu ddim yn perthyn i rywun, ddim yn mynd i Steddfod a ballu – man anodd iawn iawn i gael i fewn ir cylchoedd o pwer.

Mae’n waeth yng Nghymru na yn Lloegr- dwin meddwl oherwydd ein bod ni yn wlad mor fach. Maen debyg iawn i’r Iwerddon- yr un hen cyfenwau sydd yn yn Dail.

Rhaid i’r Blaid agor i fyny i fwy o bobl- mae ddignoedd o bobl ifanc allan yna eisiau mynd i fewn i wleidyddiaeth. DWI yn aelod o’r Blaid, ond dwi ddim yn teimlo fy mod i yn “rhan” or blaid.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd Trystan , Ionawr 29, 2012 7:22 am

Mae cyfarfod blynyddol Cymru X – yn agored i unrhyw un dan 30 yn digwydd a, 10am yng Nghlwb y Cwins, Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn y 18fed o Chwefror. Cyfle gwych i bawb fod yn rhan o ddatblygiadau ac ethol swyddogion newydd i’r mudiad. Mae mwy o fanylion ar wefan y Blaid

§| Nodi camddefnydd

Emyr G , Ionawr 29, 2012 3:56 pm

Martin Wilias, fel Cadeirydd Cangen Prifysgol Caerdydd y mudiad (rwy’n dod o Gaerffili), fe allaf eich sicrhau nad oes gan y rhan helaeth o’n haelodau ni yn y gangen arlliw o ddiddordeb mewn sedd yn y Cynulliad, a fi yn un ohonynt. Diddordeb pob un o’n haelodau ni yw sicrhau Cymru anibynnol lle mae’r iaith yn ffynu a thegwch cymdeithasol yn sylfaen gadarn i’r Wladwriaeth a’r genedl.

Braf yw gweld bod rhai pobl yn bod mor bositif ynglyn a Ieuenctid Cymru heddiw. Mae croeso i chi fynychu ein cyfarfod nesaf i weld os y clywch chi unrhywbeth difyr i dawelu’ch meddwl. Calliwch er mwyn dyn!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Ionawr 30, 2012 3:06 am

Clwb y Cwins – neis – lle braf iawn – Cymreig iawn

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Ionawr 30, 2012 5:38 pm

Fe wnaeth Plaid Cymru dorri addewid drwy beidio a delufro papur dyddiol.
Nid yw hi’n syniad doeth i e.e. Aelodau Cynulliad Plaid Cymru bostio llwyth o negeseuon ar y wefan yma.
Ond nid yw hi’n ormod gofyn i’r adran ieuenctid (CymruX) hybu’r wefan drwy ymateb i straeon.
Momentwm clir a gweladwy a thargedau uchelgeisiol. Ymlaen. A yw rhai o aelodau CymruX ofn mynegi barn annibynnol ar y wefan yma?
A fydd Dafydd Trystan yn eich dwrdio os byddwch yn mynegi barn gwreiddiol a thu allan y bocs ar y wefan yma?
Plaid Cymru-mae’r iaith yn bwysicach nag annibyniaeth. Y Gymraeg-raison detre PC (pawb a’i agenda-dyma yw fy newis i).
Gobeithio y bydd y cyfarfod yng Nghaerfyrddin yn trafod pwysigrwydd y wefan yma-disgwrs Cymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Emyr G , Ionawr 31, 2012 3:32 pm

Rwy’n mynegi fy marn yn anibynnol ac rwy’n anghytuno â chi. Ac mae gwahaniaeth mawr rhwng mynegi barn a dilorni, Martin.

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 1, 2012 2:31 pm

A ydych yn gwadu’r cyhuddiad fod CymruX yn rhy Caerdydd-centric?
Fy marn gonest i ydi fod pobl yn eu hugeiniau sy’n aelodau o e.e. CYIG neu Cyfeillion y Ddaear yn tueddu i fod yn bobl difyrrach nag aelodau o CymruX. Mwy o angerdd a than yn y bol.
Os caf i fod mor hyf a gofyn- a ydych yn credu fod Cymru Annibynnol yn nod realistig yn y tymor byr? Breuddwyd gwrach ydyw.
Hoffwn weld CymruX yn plymio iddi, cymryd gafael yng nghyrn yr aradr a chydio yn y danadl- mater o flaenoriaethau-bywiogi’r Gymraeg drwy gyfrannu at Golwg360!

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 1, 2012 2:46 pm

Dyma i chi neges drydar difyr diweddar gan feddyliwr diddorol:
“Mae eisiau inni fod yn glir o ran un peth. Os pris annibyniaeth yw cefnu ar yr iaith Gymraeg, yna bydd rhaid dweud na wrth annibyniaeth.”
Emyr G-mawr obeithiaf y bydd yr uchod yn destun trafod yng Nghaerfyrddin ar y deunawfed o Chwefror.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.