Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pryderu am Radio Cymru

Ionawr 27, 2012 15:05, Diweddarwyd am 17:06



Mae adroddiadau bod y BBC yn ystyried tocio 16% o gyllideb Radio Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi codi pryderon un Aelod Cynulliad heddiw, sy’n ofni bod yr orsaf Gymraeg yn cael salach bargen na Radio Wales a gorsafoedd radio eraill y Gorfforaeth.

Mae’r argymhellion, a ddatgelwyd gan y Cymro heddiw, yn awgrymu’n fawr fod Radio Cymru yn cael ei wasgu dan bwysau o’r ochr draw i Glawdd Offa, yn ôl Bethan Jenkins o Blaid Cymru.

“Dw i’n meddwl eu bod nhw’n gwrando gormod ar rai o ranbarthau’r BBC yn Lloegr sy’n dweud bod Radio Cymru yn cael gormod o arian o’i gymharu â gorsafoedd radio rhanbarthol eraill yn Lloegr,” meddai.

“Ma’ Radio Devon eisoes wedi bod yn cwyno eu bod nhw’n cael mwy o wrandawyr na Radio Cymru, ond llai o gyllid,” meddai Bethan Jenkins, “ond dyw cymhariaeth fel yna’n rhoi dim ystyriaeth i elfennau gwahanol diwylliant Cymru a’r iaith.”

Mae AC Canol De Cymru yn aelod o grŵp y Cynulliad sy’n edrych ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru, ac mae’n ofni y bydd y newidadau dan sylw yn creu mwy o fwlch rhwng Radio Cymru a Radio Wales.

Yn ôl yr adroddiadau heddiw, mae’r argymhellion yn cynnig cadw Sian Gwynedd, cyn-olygydd Radio Cymru, yn bennaeth ar holl wasanaethau Cymraeg BBC Cymru – sef radio, teledu ac ar-lein. Er y bydd Radio Wales yn cadw ei olygydd ei hun ar gyfer cynnwys yr orsaf.

“Mae gwahaniaeth yn barod rhwng beth sydd gan Radio Cymru o’i gymharu gyda Radio Wales,” meddai Bethan Jenkins. “Mae argymhellion fel hyn yn fy mhoeni i.

“Gallai’r bwriad i gael gwared ar swydd ‘Golygydd Radio Cymru’ fod yn niweidiol iawn i’r orsaf, gan fygwth ei chyfeiriad yn y dyfodol,” meddai.

“Os nad oes rhywun yn gyfrifol yn benodol am wasanaeth Radio Cymru, rydych chi’n bygwth glasdwreiddio’r holl beth sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd,” meddai Bethan Jenkins.

Yr argymhellion

Mae’r argymhellion a ddatgelwyd heddiw, sydd i fod i gael eu cyhoeddi’n swyddogol ddiwedd Chwefror eleni, yn awgrymu y bydd Radio Cymru yn derbyn 16% yn llai o gyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bydd yr orsaf yn cael gwared ar naw aelod o staff Radio Cymru, a newid sylweddol ym mhatrwm rhaglenni’r dydd – gan gynnwys mwy o fiwsig a llai o siarad.

Y BBC yn bwrw’n ôl

Ond mae’r BBC wedi gwadu bod newidiadau o’r fath i’r orsaf ar y gweill ar hyn o bryd, gan ddweud mai diogelu safon gwasanaeth Radio Cymru yw’r nod.

Anfonodd Sian Gwynedd nodyn at staff heddiw, yn sgil y datgeliad, yn ceisio’u sicrhau nad oedd lle i boeni.

“Dydw i ddim yn gwadu y bydd y toriadau yma yn anodd iawn i ni fel gorsaf ac mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn gyfnod ansicr, ond gallaf eich sicrhau mai ein nod fydd diogelu Radio Cymru a sichrau ein bod yn cynnig gwasanaeth o safon i’r dyfodol.”

Dywedodd hefyd fod rhai o’r newidiadau yn perthyn i’r hyn a gyhoeddwyd cyn y Nadolig, yn sgil dogfen doriadau Delivering Quality First y BBC – ond fod yna “nifer fawr o awgrymiadau eraill ynglyn â’r dyfodol nad oes unrhyw sail ffeithiol iddyn nhw.”

Er hynny, cyfaddefodd y byddai’r “toriadau yma yn anodd iawn i ni fel gorsaf ac mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn gyfnod ansicr, ond gallaf eich sicrhau mai ein nod fydd diogelu Radio Cymru a sichrau ein bod yn cynnig gwasanaeth o safon i’r dyfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC heddiw nad oedd “unrhyw benderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud hyd yma – dyfalu’n unig yw unrhyw ddamcaniaethau yn y cyfamser.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Hefin a Marian , Ionawr 27, 2012 4:07 pm

Mae Llais Gwynedd yn ymddwyn yn union fel cywion a wthiwyd neu ddisgynodd allan o nyth Plaid Cymru. Mae eu gwaeddi’n crochian o eiddigedd o’r gweddill cartrefol sy’n fwy clud yn y nyth.

§| Nodi camddefnydd

Ceri , Ionawr 27, 2012 5:51 pm

Hefin a Marian
– odych chi wir yn meddwl yr un peth ne odych chi wir ryw fersiwn Sion a Sian o George a Mildred ‘slawar dydd!- a Mildred a’r llaw uchaf..

Hefin – ma help i gal mas ‘na wir yr.. cer i wilo amdano cyn bo hi’n rhy hwyr..

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.