Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Saith Seren’ yn Wrecsam

Ionawr 28, 2012 09:18


Saith Seren
Bydd canolfan i ddenu pobl yn Wrecsam a’r cylch i gymdeithasu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn agor yn ffurfiol yn Wrecsam heddiw.

Mae Canolfan Gymraeg Wrecsam wedi adnewyddu hen dafarn y Seven Stars ar Stryt Caer, cyfieithu’r enw a’i ail agor er mwyn hybu’r deunydd o’r Gymraeg yn y dref trwy ddarparu bwyd, diod, adloniant, cyfleusterau cymunedol a swyddfeydd yno.

Bydd cyn reolwr Wrecsam, Dixie McNeal, a chyn ddysgwr y flwyddyn ac aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Spencer Harris, ymlith y rhai fydd yn yr agoriad.

“Mae Spencer a Dixie mewn gwahanol ffyrdd yn arwyr lleol,” meddai Cadeirydd Saith Seren, y cynghorydd Marc Jones, “ ac yn ogystal a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd, bwriad Saith Seren hefyd yw dathlu llwyddiannau lleol a hybu balchder yn Wrecsam. Mae Spencer a Dixie wedi gwneud eu rhan yn hyn o beth” meddai.

Bydd cwsmeriaid yn cael cyfle hefyd i enwi cwrw newydd sy’n cael ei fragu gyda help Pene Coles o fragdy lleol Sandstone. Mae Mr Coles yn un o gyfarwyddwyr y ganolfan. Bydd modd hefyd blasu bwyd lleol a chwrw o rannau eraill o Gymru.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd Trystan , Ionawr 28, 2012 9:46 am

Llongyfarchiadau i bawb sydd ynghlwm a’r fenter hon. Os yw’r Gymraeg i ffynnu fel iaith gymunedol ym mhob cwr o’r wlad mae’n rhaid mentro yn ogystal a derbyn cefnogaeth llywodraethol, ac mae menter o’r fath yn ysbrydoliaeth.

§

Llew , Ionawr 29, 2012 10:48 am

Pob lwc i’r fenter newydd. Gobeithiaf ddod i’r lle yn fuan os fyddaf yn ymweld a Wrecsam un dydd.

§| Nodi camddefnydd

marc , Ionawr 30, 2012 12:33 am

A dim ceiniog o arian cyhoeddus chwaith…

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.