
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn holi tri o bobl holi yn y ddalfa yn Llanelwy ynglyn â chyfres o ladradau o fath arbennig yn Siroedd Dinbych a Chonwy.
Bu nifer o achosion o ladrata trwy dynnu sylw perchnogion siopau gemwaith a dillad yr wythnos diwethaf yn Llandrillo yn Rhos, Prestatyn, Llangollen a Chorwen.
Cafodd dwy ddynes a dyn ifanc, y credir eu bod yn hanu o Rwmania, eu harestio yn Nyfnaint a’u cludo yn ôl i Ogledd Cymru er mwyn cael eu holi.