Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Tân yn lladd un person ym Mhentyrch

Ionawr 28, 2012 11:59


Mae Heddlu De Cymru yn parhau i holi llanc deunaw oed wedi i rhywun farw mewn tân ym Mhentyrch ger Caerdydd yn ystod oriau man bore ddoe ( Gwener).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân yn Cefn Bychan toc wedi tri o’r gloch y bore. Dyw’r heddlu ddim wedi enwi y person fu farw hyd yma ac mae nhw’n holi’r llanc yng ngorsaf ganolog Caerdydd ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.