Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Nifer y ceisiadau i brifysgolion Cymru yn gostwng 9.3%

Ionawr 30, 2012 13:43



Mae nifer y ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr i brifysgolion Cymru wedi disgyn 9.3% eleni, o’u cymharu â’r llynedd.

Cyhoeddodd y gwasanaeth derbyn ceisiadau, UCAS, heddiw fod nifer y ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru i lawr i 60,527 eleni, o’u cymharu â’r un adeg y llynedd.

Mae’r ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr o Gymru hefyd wedi disgyn 1.9%, ond yn Lloegr gwelwyd y cwymp mwyaf, gyda gostyngiad o 9.9%  yn nifer y ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr eleni, o’i gymharu â’r llynedd.

Cynnydd

Er hynny mae nifer y ceisiadau i brifysgolion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cynyddu eleni, gyda 0.2% o gynnydd i brifysgolion yr Alban, a 0.1% o gynnydd yng Ngogledd Iwerddon.

Dydi’r newid ddim yn mynd i fod yn syndod i’r rhai sydd wedi bod yn darogan ers tro y gallai’r cynydd mewn ffioedd myfyrwyr – sy’n golygu bod myfyrwyr o Loegr yn gorfod talu hyd at £9,000 y flwyddyn o fis Medi ymlaen yn sgil penderfyniad Llywodraeth San Steffan -  olygu cwymp yn niferoedd y myfyrwyr.

Ond fe fydd y newyddion yn ergyd i Lywodraeth Cymru, sy’n dibynnu ar niferoedd uchel o fyfyrwyr o Loegr i dalu’r £9,000 i brifysgolion Cymru, er mwyn helpu ariannu’r costau is i fyfyrwyr yng Nghymru – sy’n cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru.

Beirniadu polisi ffioedd Cymru

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyfeirio at ffigyrau heddiw fel prawf nad yw polisi ffioedd is Cymru yn gynaladwy.

“Mae’r ffigyrau yma’n taflu cysgod pryderus iawn dros bolisiau’r Llywodraeth, sy’n gwneud dim ond ceisio hawlio’r penawdau,” meddai llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar addysg, Angela Burns.

“Dyma gynllun hanner-pan sydd wedi ei seilio’n ansicr ar lif myfyrwyr ar draws Clawdd Offa, ac fe ddylai ffigyrau heddiw sobri’r gweinidog.

“Mae’r gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau o Loegr yn codi cwestiynau dros amcangyfrif Llywodraeth Cymru, ac os yw’r arfer yn parhau, bydd y costau’n cynyddu bob blwyddyn,” meddai.

Amddiffyn

Ond cafodd polisi ffioedd Llywodraeth Cymru eu hamddiffyn gan lywydd Undeb Myfyrwyr y DU heddiw.

Yn ôl Liam Burns, mae “ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru a’r Alban wedi cael eu heffeithio’n llawer llai, gan adlewrychu’r ymrwymiad y mae eu Llwyodraethau cenedlaethol wedi eu gwneud i amddiffyn pobol ifanc rhag y cynnydd ym mhris addysg.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Cynog Dafis , Ionawr 30, 2012 6:15 pm

Gall fod y Toriaid yn iawn fod y gostyngiad yn nifer o fyfyrwyr o Loegr yn golygu y bydd rhaid ailfeddwl polisi Llywodraeth Cymru ar ffioedd i fyfyrwyr. Nid yn unig y bydd llai o incwm yn dod i brifysgolion Cymru, ond mae arian ar hyn o bryd yn llifo o drysorlys denau’n Cynulliad Cenedlaethol i bocedi gwancus Sefydliadau Addysg Uwch Lloegr.

A fyddai’r Toriaid felly yn cefnogi rhoi’r cymorth ariannol sy nawr ar gael yn ddiwahan i ddim ond myfyrwyr o Gymru sy’n derbyn eu Haddysg Uwch yng Nghymru. Gellid gwneud eithriad yn achos myfyrwyr sy am astudio pynciau sy ddim ar gael yng Nghymru, ee Milfeddygaeth, neu yn achos rhai sy’n cael eu gwrthod i gyrsiau yng Nghymru a’u derbyn yn Lloegr – rhywbeth sy’n digwydd yn gyson yn achos Meddygaeth.

Byddai system felly yn creu cymhelliant i fyfyrwyr aros yng Nghymru ac fe fyddai’n adfer polisi a orfodwyd rai blynyddau nol ar Lafur gan y dair gwrthblaid.

Mae gwledydd yn gyffredin yn cynnig cymelliannau ariannol i ddenu pobl y mae ganddyn new rywbeth arbennig i’w gynnig. Iwerddon ee yn cynnig telerau treth arbennig i artistiaid sy’n symud i fyw yna er mwyn hybu’r diwydiannau creadigol. Pam nad gwneud yr un fath i ddenu’n pobl ifainc ni’n hunain? Colli ein talentau gorau genhedlaeth ar ol cenhedlaeth yw un o broblemau cronig Cymru, gan sigo’n hegni a’n creadigedd cenedlaethol.

Gallai argyfwng droi’n gyfle yn yr achos yma, er mawr les i economi a chymdeithas Cymru i’r dyfodol.

Dewch ati Doriaid. Pwy wyr na ddaw cefnogaeth Plaid Cymru yn eich sgil?

§

Hirben , Ionawr 30, 2012 9:24 pm

Dair blynedd yn ol roedd myfyrwyr o Gymru a oedd yn astudio yng Nghymru ond yn talu traean y ffioedd a oedd yn daladwy ar y pryd. Ond yn anffodus gwnaethpwyd i ffwrdd â’r polisi hwn. Roedd yn gymhelliad i fyfyrwyr aros yng Nghymru. Cytunaf gyda Cynog Dafis, gallai hwn fod yn gyfle da. i ni geisio cadw ein pobl ifanc yma. Mae’n sefyll i reswm na all y Cynulliad dalu ffioedd pob myfyriwr o Gymru sydd am astudio mewn prifysgol.

§| Nodi camddefnydd

Aneirin , Ionawr 31, 2012 9:24 am

Mae’r brain drain blynyddol o Gymru yn frawychus – mae ar lefelau tebyg i’r Iwerddon ond gan nad ydym yn ynys nac yn anibynnol nid yw’n cael ei ystyried.

Mae buddsoddiad o filoedd o bunnoedd ac yn bwysicach, buddsoddiad diwylliannol ac ieithyddol yn ein pobl ifanc yn cael ei golli wrth iddynt astudio yn Lloegr.

Does bosib na fyddai modd i Lywodraeth Cymru geisio rhoi cymorth i brifysgolion Cymru a chynnig cymorth i fyfyrwyr aros yma (gyda’r eithriadau yr awgrymwyd gan Cynog Dafis)? Byddai hynny o fudd i’r prifysgolionn, economi a’n cenedl.

Mae Leighton Andrews wedi gwneud gwaith penigamp fel Gweinidog dros Addysg, ond mae’r polisi yma yn un niweidiol iawn iawn i ni. Ni allwn fforddio colli’r arian na’r bobl yma bellach.

Toris, Plaid a LibDems dewch at eich gilydd er lles Cymru. Plîs.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.