Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dyfodol gwasanaeth fferi yn y fantol

Ionawr 31, 2012 18:13, Diweddarwyd am 18:13


Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fydd ei lywodraeth yn sybsideiddio’r gwasanaeth fferi rhwng Abertawe a Corc ac mae wedi codi cwestiynau ynglŷn â ymarferoldeb y cwmni.

Fis Tachwedd y llynedd fe gyhoeddodd y cwmni Fastnet Line eu bod yn canslo’r gwasanaeth oherwydd bod prisiau tanwydd wedi cynyddu.

Er bod y cwmni wedi gobeithio y byddai’r gwasanaeth yn ail-ddechrau ym mis Ebrill fe glywodd Aelodau Cynulliad heddiw bod dyfodol y gwasanaeth fferi yn ansicr.

Roedd Carwyn Jones wedi mynnu heddiw bod y Llywodraeth yn gwneud “popeth posib” i sicrhau bod y gwasanaeth yn ail-ddechrau ond fe rybuddiodd nad oedd pethau’n edrych yn rhy dda.

Yn y Senedd prynhawn  ma fe ddywedodd Mike Hedges AC Abertawe bod y fferi yn hanfodol ar gyfer de orllewin Cymru a gofynnodd beth oedd y Llywodraeth yn gwneud er mwyn ceisio achub y gwasanaeth.

Dywedodd Carwyn Jones: “Fe wnawn ni edrych i weld beth allen ni neud, mae’n bwysig bod y gwasanaeth yn ymarferol. Ond dyw hi ddim yn argoeli’n dda ei fod wedi para am ddwy flynedd cyn dod i ben.”

Cafodd y gwasanaeth rhwng Abertawe a Corc ei sefydlu yn 1987 ond daeth i ben yn 2006 pan werthodd  cwmni Swansea Cork Ferries Cyf y llong fferi.

Fe ail ddechreuodd y gwasanaeth yn 2010 gyda chwmni Fastnet Line. Ond aeth i drafferthion y llynedd pan gyhoeddwyd bod y gwasanaeth yn dod i ben dros fisoedd y gaeaf. Prisiau tanwydd cynyddol oedd yn cael y bai.

Heddiw, dywedodd AC Plaid Cymru Bethan Jenkins bod canslo’r gwasanaeth wedi golygu bod ardal Munster yn Iwerddon wedi colli oddeutu 60,000 o ymwelwyr a thua 30 miliwn ewro i’r economi leol.

Ond dywedodd Carwyn Jones na fyddai’r Llywodraeth yn sybsideiddio Fastnet Line. Dywedodd  y byddai’n rhaid gweld os oedd modd buddsoddi yn y gwasanaeth er mwyn ei gwneud yn fwy ymarferol. Ychwanegodd bod trafodaethau’n parhau.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.