Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Enwebiadau – Leanne Wood ar y blaen

Ionawr 31, 2012 18:21


Leanne Wood
Leanne Wood sydd wedi cael y mwya’ o enwebiadau gan etholaethau a changhennau yn ras arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae’r AC o Ganol De Cymru wedi cael ei chynnig gan chwech etholaeth ac wyth cangen – cyfanswm o 14, sy’n fwy nag enwebiadau’r tri arall gyda’i gilydd.

Dyw nifer yr enwebiadau ddim yn hollbwysig – gan nad yw’r rhan fwya’ o etholaethau a changhennau’n cynnig enwau – ond mae ymgyrch Leanne Wood wedi cyhoeddi ffigwr eu hymgeisydd nhw gan honni bod y ffigwr yn dangos cryfder ei chefnogaeth.

Elin Jones, AC Ceredigion, yw’r ail yn y rhestr, gyda dwy etholaeth a thair cangen, tra bod gan AC Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas, ddwy etholaeth a dwy gangen. Dwy etholaeth sydd wedi cefnogi’r ymgeisydd rhanbarthol, Simon Thomas.

Llawer heb enwebu

MaeLeanne Wood wedi cael cefnogaeth gref gan ganghennau yn y Rhondda ond mae’r lleill hefyd wedi cael cefnogaeth o’r De-ddwyrain.

Yn allweddol, dyw rhai o’r etholaethau a changhennau cryfa’ yn y Gorllewin a’r Gogledd-orllewin ddim wedi enwebu.

Fe fydd cyfres o gyfarfodydd hystingau yn dechrau i aelodau Plaid Cymru led led y wlad ar 9 Chwefror.

Dyma’r enwebiadau:

Leanne Wood

Etholaethau: Dwyrain Abertawe, Maldwyn, Gŵyr, De Caerdydd a Phenarth, Y Rhondda, Wrecsam.

Canghennau: Treherbert, Porth, Pentre, Bro Ingli, Llanelli, Treorci, Castell Nedd, Porth Tywyn.

Elin Jones

Etholaethau: Islwyn, Ceredigion

Canghennau: Talybont, Llanbed, Sion Cwilt

Dafydd Elis-Thomas

Etholaethau: Dwyfor Meirionnydd, Gorllewin Caerdydd

Canghennau: Llanuwchllyn, Y Tyllgoed

Simon Thomas

Etholaethau: Mynwy, Canol Caerdydd

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


jones2 , Ionawr 31, 2012 7:21 pm

Oni ddylai Golwg360 ymatal rhag hyrwyddo ymgyrch Leanne mewn ffordd mor agored? Chware teg nawr.

§

Iwan Rhys , Ionawr 31, 2012 7:37 pm

Adrodd y newyddion mae Golwg360 yn gwneud, jones2, ac mae’r holl fomentwm (ac felly’r newyddion) yn dod gan ymgyrch Leanne.

§

GD , Ionawr 31, 2012 8:30 pm

Chwilio am stori y mae Golwg360, a’r stori fawr yn y ras hon yw’r modd y mae LW yn denu cefnogaeth ac yn ysbrydoli pobl.

Beth ddylai’r stori fod yn dy farn di, jones2? Rhywbeth tebyg i hyn?

‘Mae pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru. Dydi tri ohonyn nhw ddim yn gwneud llawer ac maent naill ai’n sefyll yn eu hunfan neu’n mynd am yn ôl.’

Mae hepgor sôn am fomentwm Leanne yn golygu peidio adlewyrchu’r unig beth diddorol am y ras.

Wrth gwrs, bydd rhoi sylw i ymgyrch Leanne yn denu mwy o gefnogaeth iddi. Ond rhan bwysig o’r gêm yw cyffroi newyddiadurwyr er mwyn cael mwy a mwy o sylw.

§

Dafydd Trystan , Ionawr 31, 2012 8:56 pm

Ydy’r rhestr mae Golwg yn adrodd fel ffaith yn gywir. Roeddwn i’n deall nad oedd etholaethau Gorllewin Caerdydd na De Caerdydd a Phenarth wedi enwebu unrhyw ymgeisydd.

§

Cangen De Caerdydd , Chwefror 1, 2012 12:10 am

Cangen De Caerdydd sydd wedi enwebu Leanne nid Etholaeth De Caerdydd a Phenarth

§

Eirion Rhys , Chwefror 2, 2012 12:40 pm

Da gweld bod gan Leanne gefnogaeth o’r De-ddwyrain, y De-orllewin, y Canolbarth, a’r Gogledd. Ai dyma ddiwedd ‘Plaid Gwynedd’ a gwneud ‘Plaid Cymru’ yn realiti o’r diwedd?

§| Nodi camddefnydd

Etholaeth Gog Caerdydd , Chwefror 2, 2012 7:24 pm

Etholaeth Gogledd Caerdydd sydd wedi enwebu Dafydd Elis-Thomas

§

Etholaeth Gog Caerdydd , Chwefror 2, 2012 7:33 pm

Diolch

§

Gwydion , Chwefror 2, 2012 8:54 pm

O’r pedwar, dwi’n gefnogol o Leanne Wood ond dwi’m yn deall pam nad oes unrhyw un wedi codi cwestiwn am y ffaith bod ganddi ddau dy sy’n cael eu rhenti allan (o edrych ar y Cofrestr o Fuddiannau Ariannol ar gyfer aelodau’r Cynulliad).

Oni bai fod hyn yn hen newyddion, a bod rhesymau Leanne dros y tai eisoes yn hysbys (yn ddiarwybod i mi), dwi’m yn siwr sut mae hyn yn cyd-fynd a’i pholisiau?

Wedi dweud hynny, fe fuasai’n siom i wi weld unrhyw un o’r tri ymgeisydd arall yn cipio’r arweinyddiaeth.

§| Nodi camddefnydd

Etholaeth Gog Caerdydd , Chwefror 8, 2012 11:10 am

Gan fod rhai o’r sylwadau yn ymwneud â camgymeriadau yn rhestr yr enwebiadau yn yr erthygl wreiddiol oes yna obaith y bydd yr erthygl honno yn cael ei chywiro?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.