
Mae dau ddyn o Gaerdydd wedi cyfaddef eu rhan mewn cynllun i fomio Cyfnewidfa Stoc Llundain.
Roedd Gurukanth Desai, 30, o Stryd Albert yng Nghaerdydd, a‘i frawd Abdul Miah o Heol Parc Ninian wedi pledio’n euog o fod yn rhan o’r cynllun bomio, ynghyd a Mohammed Chowdhury a Shah Rahman sy’n dod o Lundain.
Mae pump o ddynion eraill, gan gynnwys un arall o Gaerdydd, wedi pledio’n euog i droseddau eraill llai difrifol yn ymwneud â therfysgaeth. Fe fydd y naw yn cael eu dedfrydu wythnos nesaf.
Roedd disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys, ond fe blediodd y dynion i gyd yn euog ar y funud olaf cyn cychwyn yr achos yn Llys y Goron Woolwich heddiw.
Rhestr o dargedau
Bwriad y gell oedd i anfon pump bom drwy’r post i dargedau gwahanol cyn y Nadolig 2010.
Roedd enwau a chyfeiriadau Boris Johnson, maer Llundain, dau rabi, y Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, ac hefyd y Gyfnewidfa Stoc ar restr o dargedau a ddarganfuwyd yn nhŷ un o’r dynion.
Bwriad y pedwar oedd i leoli’r bom “heb unrhyw ddymuniad i achosi marwolaeth na hyd yn oed anafiadau, ond gyda’r bwriad o greu terfysg, niweidio eiddo ac i achosi niwed economaidd,” yn ôl Christopher Blaxland, QC, bargyfreithiwr Chowdhury.
Cafodd Chowdhury ddedfryd o 18 mlynedd a hanner, a Rahman 17 mlynedd.