Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Llai’n gwrando ar Radio Cymru

Chwefror 2, 2012 08:11, Diweddarwyd am 08:12


Roedd yna ostyngiad bach yn ffigurau gwrando Radio Cymru a Radio Wales yn ystod chwarter ola’r llynedd.

Roedd y cwymp i’r ddwy orsaf yn fwy o gymharu â’r un cyfnod yn 2010 ond mae mwy o bobol wedi bod yn gwrando ar radio lleol y BBC – er gwaetha’ cynlluniau i dorri ar eu gwario.

Roedd Radio Cymru’n cyrraedd 134,000 o bobol bob wythnos yn ystod y tri mis at fis Rhagfyr – 4,000 yn llai nag yn y tri mis cynt ac 19,000 yn llai nag yn chwarter ola’r flwyddyn gynt.

Roedd gostyngiad tebyg yn ffigurau Radio Wales – er bod yr orsaf ei hun yn pwysleisio bod pobol yn gwrando am ragor o oriau.

Mae’r cynnydd yng nghynulleidfaoedd gorsafoedd radio lleol y BBC yn Lloegr yn dilyn galwad gan Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Chris Patten, am ailystyried toriadau yn eu cyllid.

Cwmni o’r enw Rajar sy’n cyhoeddi’r ffigurau.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


irfon , Chwefror 2, 2012 9:47 am

Dos ryfadd. Dos na’m byd werth ei glywad ar Radio Cymru dyddia yma- clebran di-ddiwadd, cyflwynwyr twp a miwsig dwl sydd heb newid ers degawda. Ac, oherwydd y gyllideb fewnol, mae pethau’n mynd i fynd yn waeth cyn bo hir. Mae werth gofyn y cwestiwn ‘be ydi pwynt Radio Cymru bellach’? Hybu lol a rwtch- ond yn y Gymraeg?? Dim diolch BBC. Mi a i at Radio 4.

§| Nodi camddefnydd

Andrew , Chwefror 2, 2012 1:16 pm

Mae hi’n dasg anodd ceisio darparu rhywbeth at ddant pawb ar un sianel, boed yn radio neu’n deledu. Mae’r gwrandawr Saesneg yn medru gwrando ar Radio 1 os am glywed pop, Radio 2 am rywbeth mwy canol yr hewl, Radio 4 am bethau swmpus, pwysau trwm ayyb. ‘Does gan y gwrandawr Cymraeg ddim o’r dewis hyn, felly mae’r bobl ifainc yn meddwl nad oes digon ar eu cyfer nhw, a phobl hyn fod gormod o ffwlbri arno. ‘Does neb yn cael beth mae nhw eisiau o’r bore bach tan nos.

§| Nodi camddefnydd

Eirwen Haf , Chwefror 2, 2012 1:56 pm

Ma Andrew yn llygad ei le. Anodd plesio pawb! Mi fuaswn i’n cael gwared o Glyn Big Brother nawr -mae yna 6 mlynedd ers ei enwogrwydd 15 munud ef ac mae ei lais a’i ynganu yn uffernol ar y radio!

§| Nodi camddefnydd

irfon , Chwefror 2, 2012 2:12 pm

Dim drama. Dim comedi. Dim dogfen. Tydi hon ddim yn swnio fel gorsaf sy’n ceisio cynnig rhywbeth i bawb.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Chwefror 2, 2012 8:04 pm

“Llai’n gwrando ar Radio Cymru”. Ydych chi’n cofio Siân Pari Huws yn y boreau ‘slawer dydd? Anodd iawn fydd cynyddu nifer gwrandawyr Radio Cymru tra’n gwario llai ar y gwasanaeth holl bwysig hwn. Y mae’n hanfodol achub y gwasanaeth hwn i Gymru.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 2, 2012 10:06 pm

Cytuno ag Irfon

§| Nodi camddefnydd

CGT , Chwefror 2, 2012 10:40 pm

Mae pob munud o’r boi Lloyd na’n costio degau o wrandawyr.
Mae’n ryfeddod i mi sut mae rhywun mor dalentog a chreadigol a Caryl Parry-Jones yn gallu swnio gymaint o rwdlan ar y radio.
Mae angen 2 orsaf yn sicr. Mae Radio Cymru’n dioddef i gymharu a Radio Wales ar brydiau – ac i feddwl fod pobl fel Owen Money ar honna, mae’n dweud cyfrolau !

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.