Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Hysbysebu swydd allweddol yn S4C

Chwefror 2, 2012 16:32


Fe fydd S4C yn hysbysebu un o’i swyddi allweddol o fewn yr wythnosau nesas’.

Fe ddatgelodd y sianel y bydd swydd Cyfarwyddwr Cynnwys yn cael ei chreu – fersiwn newydd o swydd Pennaeth Rhaglenni oedd yn cael ei gwneud gan Rhian Gibson.

Un arall o staff y sianel sydd wedi bod yn gwneud y swydd dros dro ers iddi hi adael, er bod cynhyrchwyr annibynnol wedi bod yn galw am benodiad newydd.

Pennaeth Rhaglenni neu Gyfarwyddwr Cynnwys sy’n aml yn rhoi stamp ar gynnwys rhaglenni ac yn arwain tîm o Gomisiynwyr yn y gwahanol feysydd.

Newidiadau

Wrth wneud cyfweliadau gyda’r wasg yn ystod y dyddiau diwetha’, fe wnaeth y Prif Weithredwr newydd, Ian Jones, yn glir ei fod yn rhagweld newidiadau sylweddol yn y rôl.

Fe fydd y swydd yn cael ei hysbysebu’n allanol yn ogystal ag yn fewnol i’r staff presennol.

Mae awgrym hefyd y bydd rhagor o ail-drefnu’n digwydd yn fuan.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


E W , Chwefror 2, 2012 8:18 pm

Plis gawn ni gomedi neu sioe sgets? Angen hwyl ar S4C.

§

eirwen haf , Chwefror 3, 2012 11:03 pm

Gobeithio wir fydd na benodiad newydd. Mae chwaeth y carwr cobiau sydd wrth y llyw ar hyn o bryd yn echrydus i fod yn ‘frank’!

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 4, 2012 10:19 am

Ni ddylid lleoli’r swydd yng Nghaerdydd. Nid enghraifft o gasineb yn erbyn Caerdydd ydi hyn, ond yn hytrach deisyfiad o blaid llai o lol Caerdydd-centric y tu fewn i’r byd Cymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Hughes , Chwefror 6, 2012 8:43 pm

Yn sicr ni ddylid pennodi y ‘genius’ sgwennodd y ddogfen 2012 yn Gyfarwyddwr Cynnwys – y ddogfen fwya di-werth yn hanes darlledu

Vision 2012, sy’n cynnyws y perlau o ‘cliche’s isod :-

Must-see content, talked-about content and content where the viewer makes an effort or appointment to view

Content that educates, informs and entertains – that is original, challenging and attractive

A service for Wales and the Welsh

An ambition to meet all of the audience’s requirements

Creu ‘Must See Content’ ! Na fe y broblem yw fod y cwmniau teledu wedi bod yn creu ‘content’ does neb moyn watcho ! Simple

Atgoffa rhywun o ystrydebau JBG Thomas yn y Western Mail ! Tybed a oes gan awdur y ddogfen ddiwerth gefndir rygbi ?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.