
Nikitta Grender
Mae cariad dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch feichiog, wedi dweud nad oedd hi’n ymddiried ynddo i fod yn ffyddlon.
Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw fe fu Rachel Bird, 27, cariad Carl Whant, yn rhoi tystiolaeth.
Daethpwyd o hyd i gorff Nikitta Grender, 19, yn ei fflat ym Mharc Broadmead, Lliswerry, Casnewydd ar 5 Chwefror, 2010. Roedd hi wedi cael ei threisio a’i thrywanu yn ei gwddf a’i stumog, cyn i’w fflat gael ei roi ar dân.
Mae Carl Whant, sy’n gefnder i Ryan Mayes, cariad Nikitta Grender, yn gwadu’r cyhuddiadau iddo ei threisio a’i llofruddio, cyn llosgi’r fflat yn fwriadol. Mae e hefyd yn wynebu cyhuddiad o ladd plentyn.
Parti
Dywedodd Rachel Bird bod Whant i fod i aros gyda hi i wylio’r teledu y noson cyn i Nikitta Grender gael ei llofruddio. Ond yn lle hynny, aeth allan i yfed drwy’r nos gyda Ryan Mayes a chymryd cocên cyn mynd i barti mewn tŷ.
Clywodd y llys fod Whant wedi gadael y tŷ am awr, o gwmpas yr amser y dechreuodd y tân yn fflat Nikitta Grender.
Dywedodd Rachel Bird nad oedd hi wedi gweld Whant tan y diwrnod canlynol. Fe welodd marciau coch ar ei arddwrn dde a gofynnodd sut yr oedd wedi eu cael nhw. Dywedodd ei fod wedi bod mewn dadl gyda dyn, a bod menyw wedi gafael yn ei fraich wrth geisio ymyrryd yn y ffrae, meddai.
‘Diflannu’
Roedd Rachel Bird hefyd wedi gofyn i Whant i le roedd e wedi “diflannu” y noson gynt.
“Pan oedd e’n mynd mas, byddwn i’n ffonio neu’n anfon neges destun.
“Roedd hyn am nad oeddwn yn ymddiried ynddo 100%, yn yr ystyr y galle fe fod gyda merch arall,” meddai.
“Welais i ar y newyddion fod y tân wedi dechrau o gwmpas 5.30am. Roedd hynny o gwmpas yr amser ffoniodd Ryan fi, i ddweud wrtha’i fod Carl ar goll.
“Dywedodd Carl ei fod e wedi mynd i dŷ ei famgu i ’nôl sigaréts, a’i fod e wedi mynd y ffordd hir i osgoi cael ei ddal yn yfed a gyrru.”
‘Dylanwad drwg’
Dywedodd Rachel Bird ei bod hi’n credu bod Ryan Mayes, cariad Nikitta, yn “ddylanwad drwg” ar Carl Whant.
Ychwanegodd hefyd bod Whant yn “wych” gyda’i mab dyflwydd oed, ac wedi ei drin e “fel ei fab ei hun.”
Wrth gael ei chroesholi, dywedodd Rachel Bird nad oedd Whant erioed wedi bod yn dreisgar tuag ati.
Dywedodd hefyd fod gan y ddau berthynas rhywiol normal, a bod Whant a hithau wedi bod yn drist am farwolaeth Nikitta Grender.
Mae’r achos yn parhau.