
Alun Ffred Jones, sy' wedi cynhyrchu rhaglenni hynod boblogaidd fel C'mon Midffild
Wrth ymateb i’r newyddion fod 38 o weithwyr cwmni Tinopolis yn Llanelli a Chaernarfon yn mynd i fod ar y clwt, mae’r cyn-Weinidog Treftadaeth wedi dweud mai symud swyddi S4C i’r gorllewin sydd angen yn hytrach na’u colli.
“Mae’n bwysig bod ganddyn nhw bresenoldeb yn y gwahanol ardaloedd, er mwyn adlewyrchu eu cynulleidfa graidd nhw,” meddai Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad Arfon, wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
“Mae’n ddadl o bosib i ddatganoli S4C o Gaerdydd wrth gwrs… mae yna lot o waith [yng Nghaerdydd] ac mae hynny yn sugno lot fawr o bobol ifanc wrth gwrs…
“Mewn gwlad fel Cymru mae’n bosib i ni fynd i’r un trap a Llundain – sef Llundain yn cael popeth a bod gweddill Lloegr yn diodde’.
“Wel mae’n rhaid i Gymru hefyd watsiad nad ydy Caerdydd yn mynd yn bopeth i ni.
“Mae’n rhaid i ni ddatganoli rhai pencadlysoedd allan o Gaerdydd… mae yn ddadl dda yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd dros gael pencadlysoedd y tu allan.
“Mae presenoldeb y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn eithriadol bwysig i’r dref. Ac yn yr un ffordd mae cael pencadlysoedd eraill o gwmpas Cymru yn bwysig.”
Bydd pencadlys y Comisiynydd Iaith newydd, swydd gafodd ei sefydlu dan Fesur Iaith a fu dan ofal Alun Ffred Jones, yng Nghaerdydd.
“Mae’n debyg bod hwnnw hefyd yn golli cyfle,” meddai.
Cewch yr erthygl yn ei chyfanrwydd yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.
Iwan Rhys , Chwefror 3, 2012 9:55 am
§| Nodi camddefnydd