Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Traean o gefnogwyr y Blaid eisiau annibyniaeth

Chwefror 3, 2012 10:52


Senedd Cymru
Bu cynnydd sylweddol ers Refferendwm Mawrth 2011 yn y nifer o Gymry fyddai’n cefnogi rhoi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru, tase’r Alban yn mynd yn annibynnol, yn ôl pôl piniwn ddoe.

Roedd yna newyddion gwael iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, gyda chwymp syfrdanol o 70% yn y nifer oedd yn dymuno pleidleisio i’r blaid yn etholiad cyffredinol nesa’ Prydain.

Ac mae’r ymchwil yn dangos mai 33% o gefnogwyr Plaid Cymru fyddai’n dymuno annibyniaeth, hyd yn oed pe tae’r Alban yn pleidleisio dros hynny.

Roedd yr ymchwil diweddaraf gan YouGov i ITV Cymru.

Cyfrannodd 1,008 oedolyn o Gymru i’r ymchwil, a gafodd ei gynnal rhwng Ionawr 30ain a Chwefror 1af.

Mwy yn cefnogi pwerau ychwanegol

O’i gymharu gyda pôl piniwn gan yr un cwmni ym Mawrth 2011, mae yna naid sylweddol yn y rhai sydd am weld fwy o bwerau yn cael eu datganoli.

Ar y pryd, roedd 17% yn cefnogi datganoli, gan gynnwys 6% oedd am weld annibyniaeth i Gymru. Petai’r Alban yn ennill annibyniaeth, erbyn hyn buasai 42% yn cefnogi datganoli pellach, a 10% yn cefnogi annibyniaeth.

Dyw’r nifer sydd am gael gwared o Lywodraeth Cymru – 17% – heb newid ers Mawrth 2011.

Y dyfodol i Gymru heb yr Alban yn y DU

Wrth ymateb i’r cwestiwn “Sut ddylai Cymru gael ei llywodraethu tu fewn y DU, heb yr Alban?”, roedd 32% yn dweud byddai angen rhoi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru, a 30% yn teimlo dylai Cymru aros yn y DU, heb unrhyw newid cyfansoddiadol.

Dim ond 3% oedd yn ffafrio llai o bwerau i Gymru, ac 17% yn dweud fod ddim angen Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Roedd y 7% arall ddim yn gwybod.

Traean o’r Blaid eisiau annibyniaeth

Mae’r daliadau yn newid fesul plaid, gyda 36% o gefnogwyr Llafur am barhau gyda’r system bresennol, a 39% am weld fwy o bwerau ond ddim annibyniaeth.

Roedd 40% o’r pleidleiswyr Ceidwadol am gael gwared ar ddatganoli a chael gwared Llywodraeth Cymru yn dilyn annibyniaeth i’r Alban, a 30% am barhau gyda’r system bresennol.

Hyd yn oed ymysg cefnogwyr Plaid Cymru, dim ond 33% o’r cefnogwyr sydd o blaid annibyniaeth yn dilyn pleidlais tebyg yn yr Alban. Roedd 42% o gefnogwyr Plaid Cymru am weld fwy o ddatganoli, ond ddim annibyniaeth.

Etholiad Llywodraeth Cymru

Fuodd YouGov hefyd yn holi am ddymuniadau pleidleisio etholwyr ar hyn o bryd.

Newyddion da i Lafur a’r pleidiau bychain, ond dirywiad difrifol yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd Llafur wedi gweld cynnydd o 7% yn y pôl piniwn, o 42% i 49%. Dirywio oedd hanes cefnogaeth pob un o’r prif bleidiau eraill, gyda’r Ceidwadwyr yn disgyn i 20%, cwymp o 5%.

Roedd 17% yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru, cwymp o 2%. Syrthiodd cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn sylweddol, o 11% i 7%.

Newyddion gwaeth fyth i’r Democratiaid Rhyddfrydol

O ran etholiad San Steffan, saethodd cefnogaeth Llafur yng Nghymru o 36% i 50%. Doedd yna braidd ddim newid ym mhleidlais y Ceidwadwyr, Plaid Cymru na’r ‘pleidiau eraill’.

Ond roedd yna gwymp anferth yn y rhifau oedd yn dymuno pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ym Mai 2010, roedd 20% am bleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Erbyn y pôl piniwn yma, dim ond 6% oedd yn bwriadu eu cefnogi, gyda 9% yn bwriadu pleidleisio i bleidiau lleiafrifol.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Neilyn , Chwefror 3, 2012 11:26 am

Rachel Banner a True Wales – eich ymateb os gwelwch yn dda?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.